Yn ôl

Nahum

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

NAHUM 3

1 Gwae ddinas y tywallt gwaed,

sy'n llawn celwyddau, yn llawn trais

a'r lladd byth yn stopio!

2 Daeth sŵn clec y chwip a thwrw'r olwynion,

meirch yn carlamu a cherbydau'n crynu!

3 Marchogion yn ymosod,

cleddyfau'n fflachio,

gwaywffyn yn disgleirio!

Pobl wedi'u lladd ym mhobman;

tomenni diddiwedd o gyrff –

maen nhw'n baglu dros y meirwon!

4 A'r cwbl o achos drygioni'r butain

ddeniadol oedd yn feistres swynion,

yn gwerthu ei hun i'r cenhedloedd

a swyno a thwyllo pobloedd.

5 “Dw i'n mynd i ddelio gyda ti,”

—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.

“Bydda i'n gwneud i ti gywilyddio –

yn codi dy sgert dros dy wyneb;

bydd y cenhedloedd yn dy weld yn noeth

a theyrnasoedd yn gweld dy rannau preifat!Croes

6 Bydda i'n taflu budreddi ar dy ben,

a'th wneud yn destun sbort ac yn sioe.

7 Fydd neb yn gallu edrych yn hir –

Bydd pawb yn troi i ffwrdd a dweud,

‘Mae Ninefe'n adfeilion,

a does neb yn cydymdeimlo!’

Ble wna i ddod o hyd i rywun i dy gysuro di, Ninefe?”

8 Wyt ti'n saffach na Thebes Ref ar lan afon Nîl?

Roedd y dŵr fel môr Ref yn glawdd o'i chwmpas,

a'r afon fel rhagfur iddi.

9 Roedd yn rheoli'r Aifft a dwyrain Affrica; Ref

roedd ei grym yn ddi-ben-draw!

– mewn cynghrair â Pwt a Libia.

10 Ond cafodd ei phobl eu caethgludo,

a'i phlant bach eu curo i farwolaeth

ar gornel pob stryd.

Roedden nhw'n gamblo am ei phobl bwysig,

ac yn rhwymo ei harweinwyr â chadwyni.

11 Byddi dithau hefyd yn feddw

ac wedi dy faeddu.

Byddi dithau'n ceisio cuddio rhag y gelyn.

12 Bydd dy gaerau i gyd fel coed ffigys

gyda'i ffrwythau cynta'n aeddfed.

O'u hysgwyd bydd y ffrwyth yn syrthio

i gegau'r rhai sydd am eu bwyta!

13 Bydd dy filwyr fel merched gwan yn dy ganol;

a giatiau dy wlad ar agor i'r gelyn;

bydd tân yn llosgi'r barrau sy'n eu cloi.

14 Dos i dynnu dŵr i'w gadw ar gyfer y gwarchae! Ref

Cryfha dy gaerau!

Cymer fwd a sathra'r clai,

a gwneud brics yn y mowld!

15 Bydd tân yn dy losgi di yno,

a'r cleddyf yn dy dorri i lawr –

cei dy ddifa fel cnwd gan lindys.

Gwna dy hun mor niferus â'r lindys;

gwna dy hun mor niferus â'r locust ifanc.

16 Roedd gen ti fwy o fasnachwyr

nag sydd o sêr yn yr awyr,

ond maen nhw fel lindys yn bwrw'i groen a hedfan i ffwrdd.

17 Roedd dy warchodwyr a'th weision sifil

fel haid o locustiaid yn eistedd ar waliau ar ddiwrnod oer;

ond pan mae'r haul yn codi maen nhw'n hedfan i ffwrdd,

a does neb yn gwybod i ble.

18 Mae dy fugeiliaid yn cysgu, frenin Asyria!

Mae dy arweinwyr yn pendwmpian!

Mae dy bobl fel defaid ar wasgar dros y bryniau,

a does neb i'w casglu.

19 Does dim gwella ar dy glwyf –

mae dy anaf yn farwol.

Bydd pawb fydd yn clywed y newyddion amdanat

yn dathlu a churo dwylo.

Oes rhywun wnaeth ddianc

rhag dy greulondeb diddiwedd?

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity