Yn ôl

Nehemeia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

NEHEMEIA 1

Nehemeia yn clywed am stad Jerwsalem

1 Dyma adroddiad gan Nehemeia Ref fab Hachaleia:

Roedd hi'n fis Cislef Ref yn ugeinfed flwyddyn teyrnasiad Artaxerxes, Ref ac roeddwn i yn y gaer ddinesig yn Shwshan. Ref 2 Dyma Chanani (oedd yn perthyn i mi) a dynion eraill o Jwda, yn dod i'm gweld i. A dyma fi'n eu holi nhw am yr Iddewon oedd wedi gadael y gaethglud, a sut oedd pethau yn Jerwsalem.

3 A dyma nhw'n ateb, “Mae hi'n galed ar y bobl sydd wedi mynd yn ôl i'r dalaith o'r gaethglud. Ref Maen nhw'n cael amser anodd. Mae wal Jerwsalem wedi'i chwalu, a'r giatiau wedi'u llosgi.”

Gweddi Nehemeia

4 Pan glywais hyn i gyd, dyma fi'n eistedd i lawr. Rôn i'n crio ac yn galaru am ddyddiau, a bues i'n ymprydio ac yn gweddïo ar Dduw y nefoedd. 5 A dyma fi'n dweud, “O ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, plîs! Ti'n Dduw mawr a rhyfeddol, yn Dduw mor hael, ac yn cadw dy ymrwymiad i'r rhai sy'n dy garu di ac yn gwneud beth ti'n ddweud. 6 O, plîs edrych a gwrando ar weddi dy was. Gwranda ar beth dw i'n ei weddïo ddydd a nos ar ran dy weision, pobl Israel. Dw i'n cyffesu ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di – fi a'm teulu, a phobl Israel i gyd. 7 Dŷn ni wedi ymddwyn yn ofnadwy, a heb gadw'r gorchmynion, y rheolau a'r canllawiau wnest ti eu rhoi i dy was Moses. 8 Plîs cofia beth ddwedaist ti wrth Moses: Ref ‘Os byddwch chi'n anffyddlon, bydda i'n eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd. 9 Ond os byddwch chi'n troi a gwneud beth dw i'n ddweud, hyd yn oed os ydy'r bobl wedi'u chwalu i ben draw'r byd, bydda i'n eu casglu nhw yn ôl i'r lle dw i wedi dewis byw ynddo.’ 10 Dy weision di, dy bobl di ydyn nhw, ac rwyt wedi defnyddio dy rym i'w gollwng nhw'n rhydd. 11 Plîs, o ARGLWYDD, gwrando ar weddi dy was, ac ar weddïau pawb arall sy'n awyddus i dy barchu di. Helpa dy was i lwyddo heddiw, a gwna i'r dyn yma fod yn garedig ata i.”

Fi oedd y bwtler oedd yn dod â gwin i'r brenin.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity