Yn ôl

Nehemeia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

NEHEMEIA 7

Trefniadau diogelwch Jerwsalem

1 Roedd y wal wedi'i gorffen, drysau'r giatiau wedi'u gosod yn eu lle, a gofalwyr y giatiau, cantorion a Lefiaid wedi'u penodi. 2 A dyma fi'n apwyntio Chanani (perthynas i mi), a Chananeia, pennaeth y gaer, i fod yn gyfrifol am Jerwsalem. Roedd Chananeia'n ddyn y gallwn ei drystio, ac yn fwy duwiol na'r rhan fwya o bobl. 3 Dwedais wrthyn nhw, “Ddylai giatiau'r ddinas ddim bod ar agor pan mae'r haul yn boeth ganol dydd. Dylen nhw aros dan glo nes bod y gofalwyr yn ôl ar ddyletswydd. A rhaid i chi osod rhai o bobl Jerwsalem yn wylwyr ar y waliau, ac eraill wrth eu tai.”

Rhestr o'r bobl ddaeth yn ôl o Babilon

(Esra 2:1-70)

4 Roedd digon o le yn y ddinas, a dim llawer o bobl yn byw ynddi. Doedd bron ddim tai wedi'u hadeiladu ynddi bryd hynny. 5 A dyma Duw yn rhoi syniad i mi, i alw'r arweinwyr a'r swyddogion a'r bobl gyffredin at ei gilydd, a'u cofrestru nhw yn ôl eu teuluoedd.

Dyma fi'n dod o hyd i restrau teuluol y rhai ddaeth yn ôl yn wreiddiol. A dyma beth oedd wedi'i gofnodi:

6 Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i'r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw'n arfer byw. 7 Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Asareia, Raameia, Nachamani, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Nechwm a Baana. Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl:
  • 8 Teulu Parosh: 2,172
  • 9 Teulu Sheffateia: 372
  • 10 Teulu Arach: 652
  • 11 Teulu Pachath-Moab (o deuluoedd Ieshŵa a Joab): 2,818
  • 12 Teulu Elam: 1,254
  • 13 Teulu Sattw: 845
  • 14 Teulu Saccai: 760
  • 15 Teulu Binnŵi: 648
  • 16 Teulu Bebai: 628
  • 17 Teulu Asgad: 1,322
  • 18 Teulu Adonicam: 667
  • 19 Teulu Bigfai: 2,067
  • 20 Teulu Adin: 655
  • 21 Teulu Ater (sef disgynyddion Chisceia): 98
  • 22 Teulu Chashŵm: 328
  • 23 Teulu Betsai: 324
  • 24 Teulu Charîff: 112
  • 25 Teulu Gibeon: 95
  • 26 Dynion Bethlehem a Netoffa: 188
  • 27 Dynion Anathoth: 128
  • 28 Dynion Beth-asmafeth: 42
  • 29 Dynion Ciriath-iearîm, Ceffira a Beëroth: 743
  • 30 Dynion Rama a Geba: 621
  • 31 Dynion Michmas: 122
  • 32 Dynion Bethel ac Ai: 123
  • 33 Pobl y Nebo arall: 52
  • 34 Pobl yr Elam arall: 1,254
  • 35 Pobl Charîm: 320
  • 36 Pobl Jericho: 345
  • 37 Pobl Lod, Hadid ac Ono: 721
  • 38 Pobl Senaâ: 3,930

39 Yr offeiriaid:
  • Teulu Idaïa (o linach Ieshŵa): 973
  • 40 Teulu Immer: 1,052
  • 41 Teulu Pashchwr: 1,247
  • 42 Teulu Charîm: 1,017

43 Y Lefiaid:
  • Teulu Ieshŵa (drwy Cadmiel o deulu Hodefa): 74

44 Y cantorion:
  • Teulu Asaff: 148

45 Gofalwyr y giatiau:
  • Teuluoedd Shalwm, Ater, Talmon, Accwf, Chatita a Shobai: 138

46 Gweision y deml:
  • Teulu Sicha
  • Teulu Chaswffa
  • Teulu Tabbaoth
  • 47 Teulu Ceros
  • Teulu Sïa
  • Teulu Padon
  • 48 Teulu Lebana
  • Teulu Hagaba
  • Teulu Shalmai
  • 49 Teulu Chanan
  • Teulu Gidel
  • Teulu Gachâr
  • 50 Teulu Reaia
  • Teulu Resin
  • Teulu Necoda
  • 51 Teulu Gassam
  • Teulu Wssa
  • Teulu Paseach
  • 52 Teulu Besai
  • Teulu Mewnîm
  • Teulu Neffwshesîm
  • 53 Teulu Bacbwc
  • Teulu Chacwffa
  • Teulu Charchwr
  • 54 Teulu Batslith
  • Teulu Mechida
  • Teulu Charsha
  • 55 Teulu Barcos
  • Teulu Sisera
  • Teulu Temach
  • 56 Teulu Netsïach
  • Teulu Chatiffa.

57 Teuluoedd gweision Solomon:
  • Teulu Sotai
  • Teulu Soffereth
  • Teulu Perida
  • 58 Teulu Jala
  • Teulu Darcon
  • Teulu Gidel
  • 59 Teulu Sheffateia
  • Teulu Chattil
  • Teulu Pochereth-hatsbaîm
  • Teulu Amon.
60 Cyfanswm gweision y deml a theuluoedd gweision Solomon: 392.

61 Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a'u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol):
  • 62 Teulu Delaia, teulu Tobeia a theulu Necoda: 652

63 Wedyn yr offeiriaid, sef teuluoedd Hafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw).

64 Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o'u teuluoedd yn y rhestrau achau, ond wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid. 65 Dwedodd y llywodraethwr nad oedden nhw i gael bwyta'r bwyd oedd wedi'i gysegru, nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio'r Wrim a'r Thwmim.Croes

66 Cyfanswm y bobl aeth yn ôl oedd 42,360, 67 (heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw; ac roedd 245 o gantorion – dynion a merched – gyda nhw hefyd). 68-69 Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod, 435 o gamelod a 6,720 o asynnod.

70 Dyma rai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu tuag at y gwaith.
  • Y llywodraethwr – 8 cilogram o aur, Ref 50 powlen, a 530 o wisgoedd i'r offeiriaid.
  • 71 Penaethiaid y claniau – 160 cilogram o aur Ref a 1,300 cilogram o arian. Ref
  • 72 Yna cyfraniad gweddill y bobl oedd 160 cilogram o aur a 1,200 cilogram Ref o arian, a 67 o wisgoedd i'r offeiriaid.

73 Felly dyma'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau a gweision y deml i gyd yn setlo i lawr yn eu trefi eu hunain. Ac aeth gweddill pobl Israel yn ôl i fyw i'w trefi hwythau hefyd.

Y Gyfraith yn cael ei darllen, a'r bobl yn ymateb

Pan ddaeth y seithfed mis, Ref aeth pobl Israel o'u trefi

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity