|
|
Os oes proffwyd gyda chi, dw i'r
ARGLWYDDyn siarad â'r person hwnnw drwy weledigaeth a breuddwyd.
7 Ond mae fy ngwas Moses yn wahanol.
Dw i'n gallu ei drystio fe'n llwyr.
8 Dw i'n siarad ag e wyneb yn wyneb –
yn gwbl agored. Does dim ystyr cudd.
Mae e'n gweld yr
ARGLWYDD mewn ffordd unigryw.Felly pam roeddech chi mor barod i'w feirniadu?”
9 Roedd yr ARGLWYDD wedi digio go iawn gyda nhw, a dyma fe'n mynd i ffwrdd. 10 Ac wrth i'r cwmwl godi oddi ar y Tabernacl, roedd croen Miriam wedi troi'n wyn gan wahanglwyf. Pan welodd Aaron y gwahanglwyf arni, 11 dyma fe'n galw ar Moses, “Meistr, plîs paid cymryd yn ein herbyn ni. Dŷn ni wedi bod yn ffyliaid, ac wedi pechu! 12 Paid gadael iddi fod fel plentyn wedi'i eni'n farw, a hanner ei gnawd wedi diflannu cyn iddo ddod o'r groth!” 13 A gweddïodd Moses ar yr ARGLWYDD, “O Dduw, plîs wnei di ei hiacháu hi?” 14 A dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Petai ei thad wedi poeri yn ei hwyneb, byddai'n cael ei diystyru am saith diwrnod. Cau hi allan o'r gwersyll am saith diwrnod, a bydd hi'n cael dod yn ôl wedyn.” 15 Felly dyma Miriam yn cael ei chau allan o'r gwersyll am saith diwrnod. A wnaeth y bobl ddim teithio yn eu blaenau nes roedd Miriam yn ôl gyda nhw. 16 Ar ôl hynny, dyma'r bobl yn gadael Chatseroth, ac yn gwersylla yn anialwch Paran.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity