|
|
|
|
(Deuteronomium 1:19-33)
1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2 “Anfon ddynion i archwilio gwlad Canaan, sef y tir dw i'n ei roi i bobl Israel. Anfon un arweinydd o bob llwyth.” 3 Felly dyma Moses yn eu hanfon nhw o anialwch Paran, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Roedden nhw i gyd yn arweinwyr pobl Israel. 4-15 Dyma'u henwau nhw:| Enw | Llwyth |
|---|---|
| Shammwa fab Saccwr | Reuben |
| Shaffat fab Chori | Simeon |
| Caleb fab Jeffwnne | Jwda |
| Igal fab Joseff | Issachar |
| Hoshea fab Nwn | Effraim |
| Palti fab Raffw | Benjamin |
| Gadiel fab Sodi | Sabulon |
| Gadi fab Swsi | Joseff (sef Manasse) |
| Ammiel fab Gemali | Dan |
| Sethwr fab Michael | Asher |
| Nachbi fab Foffsi | Nafftali |
| Gewel fab Machi | Gad |
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity