Yn ôl

Numeri

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

NUMERI 15

Cyfarwyddiadau am aberthu

1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2 “Dwed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi fyw ynddi, 3 byddwch yn cyflwyno offrymau i'w llosgi fydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. (Gall fod yn offrwm i'w losgi'n llwyr, neu'n offrwm i wneud addewid neu i ofyn am fendith yr ARGLWYDD ar ôl cyflawni'r addewid, neu'n offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol neu'n un o'r Gwyliau penodol.) 4-5 Rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r offrwm gyflwyno offrwm o rawn gydag e. Gyda pob oen sy'n cael ei aberthu a'i losgi'n offrwm, rhaid cyflwyno cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gyda litr o olew olewydd, a hefyd litr o win yn offrwm o ddiod. 6 Gyda pob hwrdd, rhaid i'r offrwm o rawn fod yn ddau gilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gyda litr a chwarter o olew olewydd, 7 a hefyd litr a chwarter o win yn offrwm o ddiod. Bydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. 8 A gyda pob tarw ifanc sy'n cael ei gyflwyno'n offrwm i'w losgi'n llwyr (neu'n offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD ar ôl cyflawni addewid, neu'n offrwm arall i ofyn am fendith yr ARGLWYDD), 9 rhaid i'r offrwm o rawn fod yn dri cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gyda dau litr o olew olewydd, 10 a hefyd dau litr o win yn offrwm o ddiod gyda'r offrwm sydd i'w losgi. Bydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. 11 Dyna sydd i'w gyflwyno gyda pob tarw ifanc, hwrdd, oen neu fwch gafr. 12 Rhaid gwneud hyn gyda pob anifail sy'n cael ei baratoi.

13 “‘Dyma mae unrhyw un o bobl Israel sy'n cyflwyno offrwm i'w losgi i'r ARGLWYDD i fod i'w wneud. 14 Ac mae'r mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi – nawr neu yn y dyfodol – i wneud yr un fath wrth gyflwyno offrwm i'w losgi sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. 15 Mae'r un rheol i bawb – chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi. A fydd y rheol yma byth yn newid. 16 Mae'r rheol a'r drefn yr un fath i bawb – chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw yn eich plith chi.’”

17 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 18 “Dwed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch wedi cyrraedd y wlad dw i'n ei rhoi i chi fyw ynddi, 19 ac yn bwyta'r cnydau sy'n tyfu yno, rhaid i chi ddod a chyflwyno peth ohono yn offrwm i'r ARGLWYDD: 20 Torth wedi'i gwneud o'r toes cyntaf yn cael ei chyflwyno fel yr offrwm o'r grawn cyntaf ddaeth o'r llawr dyrnu. 21 Rhaid i chi bob amser gyflwyno'r toes cyntaf yn offrwm i'r ARGLWYDD.’”

22 “Dyma sydd i ddigwydd os ydy'r gymuned gyfan yn gwneud camgymeriad, a ddim yn cadw'r rheolau mae'r ARGLWYDD wedi'u rhoi i Moses – 23 beth bynnag mae'r ARGLWYDD wedi'i ddweud drwy Moses hyd yn hyn, neu yn y dyfodol – 24 unrhyw gamgymeriad dydy'r gymuned ddim yn ymwybodol ei bod wedi'i wneud: Mae'r bobl gyda'i gilydd i baratoi tarw ifanc yn offrwm i'w losgi'n llwyr – un fydd yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. Mae i'w gyflwyno gyda'r offrymau o rawn a diod sydd i fynd gydag e. A hefyd bwch gafr yn offrwm puro. 25 Mae'r offeiriad i wneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw. Bydd Duw yn maddau iddyn nhw, am mai camgymeriad oedd, ac am eu bod nhw wedi dod a chyflwyno offrwm i'w losgi ac offrwm puro iddo. 26 Bydd y gymuned gyfan, pobl Israel a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda nhw, yn cael maddeuant. Roedden nhw i gyd yn gyfrifol am y camgymeriad.

27 “A dyma sydd i ddigwydd os ydy unigolyn yn pechu'n ddamweiniol:Croes Mae'r person hwnnw i ddod â gafr blwydd oed yn offrwm puro. 28 Yna mae'r offeiriad i wneud pethau'n iawn rhwng y person wnaeth y camgymeriad a Duw. A bydd yr ARGLWYDD yn maddau'r camgymeriad iddo. 29 Mae'r un rheol i bawb pan maen nhw'n gwneud camgymeriad – i chi sy'n Israeliaid, a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi.

30 “Ond pan mae rhywun yn tynnu'n groes yn fwriadol, ac yn enllibio'r ARGLWYDD, rhaid i'r person hwnnw gael ei dorri allan o'r gymdeithas – sdim ots os ydy e'n un o bobl Israel neu'n rhywun o'r tu allan. 31 Mae i gael ei daflu allan o'r gymdeithas am ddirmygu beth ddwedodd yr ARGLWYDD a gwrthod gwneud beth wnaeth e orchymyn. Arno fe'i hun mae'r bai.”

Y dyn wnaeth dorri'r Saboth

32 Pan oedd pobl Israel yn yr anialwch, roedd dyn wedi cael ei ddal yn casglu coed tân ar y Saboth. 33 Dyma'r rhai wnaeth ei ddal yn mynd â'r dyn o flaen Moses ac Aaron a gweddill y bobl. 34 A dyma nhw'n ei gadw yn y ddalfa nes bydden nhw'n gwybod beth i'w wneud gydag e. 35 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Rhaid rhoi'r gosb eithaf iddo. Mae'r bobl i fynd ag e tu allan i'r gwersyll a'i ladd drwy daflu cerrig ato.” 36 Felly dyma'r bobl yn gwneud hynny, a'i ladd gyda cherrig, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

Taselau

37 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 38 “Dwed wrth bobl Israel eu bod bob amser i wneud taselau ar ymylon eu dillad, a rhwymo pob tasel gydag edau las. 39 Bydd y taselau yn eich atgoffa chi o orchmynion yr ARGLWYDD, a'ch bod i ufuddhau iddyn nhw, yn lle gwneud fel dych chi'ch hunain eisiau, a mynd eich ffordd eich hunain. 40 Byddwch yn cofio gwneud beth dw i'n ddweud, ac yn cysegru'ch hunain i'ch Duw. 41 Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, i mi fod yn Dduw i chi. Ie, fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity