Yn ôl

Numeri

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

NUMERI 2

Trefn y Llwythau yn y gwersyll

1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron: 2 Rhaid i bobl Israel wersylla o gwmpas pabell presenoldeb Duw (sef y Tabernacl), gan wynebu'r Tabernacl. Mae pawb i wersylla dan fflag eu llwyth eu hunain. 3-9 Ar yr ochr ddwyreiniol, bydd adrannau'r tri llwyth yma yn gwersylla dan eu fflag:
Llwyth Arweinydd Nifer
Jwda Nachshon fab Aminadab 74,600
Issachar Nethanel fab Tswár 54,400
Sabulon Eliab fab Chelon 57,400
Cyfanswm: 186,400
Y milwyr ar ochr Jwda i'r gwersyll fydd yn arwain y ffordd pan fydd pobl Israel yn symud.

10-16 I'r de, bydd adrannau tri llwyth arall yn gwersylla dan eu fflag:
Llwyth Arweinydd Nifer
Reuben Eliswr fab Shedeŵr 46,500
Simeon Shelwmiel fab Swrishadai 59,300
Gad Eliasaff fab Dewel Ref 45,650
Cyfanswm: 151,450
Y milwyr yma ar ochr Reuben i'r gwersyll fydd yn ail i symud allan.

17 Wedyn bydd gwersyll y Lefiaid yn symud, gyda phabell presenoldeb Duw. Nhw fydd yn y canol. Mae'r llwythau i gyd i symud allan mewn trefn, pob un ohonyn nhw dan ei fflag ei hun.

18-24 Ar yr ochr orllewinol, bydd adrannau'r tri llwyth nesaf yn gwersylla dan eu fflag:
Llwyth Arweinydd Nifer
Effraim Elishama fab Amihwd 40,500
Manasse Gamaliel fab Pedatswr 32,200
Benjamin Abidan fab Gideoni 35,400
Cyfanswm: 108,100
Y milwyr yma ar ochr Effraim i'r gwersyll fydd yn drydydd i symud allan.

25-31 I'r gogledd, bydd adrannau'r tri llwyth olaf yn gwersylla dan eu fflag:
Llwyth Arweinydd Nifer
Dan Achieser fab Amishadai 62,700
Asher Pagiel fab Ochran 41,500
Nafftali Achira fab Enan 53,400
Cyfanswm: 157,600
Y milwyr yma ar ochr Dan i'r gwersyll fydd yn symud allan olaf. Bydd pob llwyth yn mynd dan ei fflag ei hun.

32 Dyma'r rhai gafodd eu cyfrif o bobl Israel yn ôl eu llwythau. Cyfanswm y dynion yn yr adrannau i gyd oedd 603,550. 33 Doedd y Lefiaid ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel. Dyna oedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn i Moses. 34 Felly dyma bobl Israel yn gwneud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddweud wrth Moses. Roedd pob llwyth a theulu yn gwersylla dan eu fflag eu hunain, ac yn symud gwersyll fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity