|
|
“Tref Waheb yn Swffa, a chymoedd Arnon,
15 a llethrau'r ceunentydd sy'n ymestyn i Ar,
ar y ffin gyda Moab.”
16 Teithio wedyn i Beër (sef ‛Y Ffynnon‛), lle dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Casgla'r bobl at ei gilydd, a gwna i roi dŵr iddyn nhw.” 17 Yna dyma bobl Israel yn canu'r gân yma,“Ffrydia ffynnon! Canwch iddi!
18 Ffynnon agorodd tywysogion,
wedi'i chloddio gyda theyrnwialennau
a ffyn yr arweinwyr.”
A dyma nhw'n teithio o'r anialwch i Mattana. 19 Yna ymlaen i Nachaliel, yna Bamoth, 20 ac yna'r dyffryn ar dir Moab, lle mae copa Pisga Ref yn edrych dros yr anialwch.(Deuteronomium 2:26—3:11)
21 Dyma Israel yn anfon negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, i ofyn iddo: 22 “Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di? Wnawn ni ddim niwed i unrhyw gnydau na gwinllannoedd, na hyd yn oed yfed dŵr o unrhyw ffynnon. Byddwn ni'n cadw ar Briffordd y Brenin yr holl ffordd, nes byddwn ni wedi croesi'r ffin yr ochr arall.” 23 Ond gwrthododd Sihon adael i bobl Israel groesi ei dir. Casglodd ei fyddin at ei gilydd, ac ymosod ar Israel yn Iahats yn yr anialwch. 24 Ond Israel wnaeth ennill y frwydr, a dyma nhw'n cymryd eu tir oddi arnyn nhw, o Ddyffryn Arnon i afon Jabboc, a'r holl ffordd at ffin yr Ammoniaid. Roedd y ffin honno wedi'i hamddiffyn, ac yn gwbl ddiogel. 25 Dyma Israel yn concro trefi'r Amoriaid i gyd, a setlo ynddyn nhw, gan gynnwys dinas Cheshbon ei hun a'r pentrefi o'i chwmpas. 26 Cheshbon oedd dinas Sihon, brenin yr Amoriaid. Ac roedd Sihon wedi concro brenin Moab a chymryd ei dir oddi arno, yr holl ffordd at afon Arnon. 27 Dyna pam mae'r baledwyr yn dweud,“Dewch i Cheshbon, dinas Sihon,
i'w hadfer a'i hailadeiladu.
28 Roedd tân yn llosgi yn Cheshbon –
fflamau o dref y Brenin Sihon.
Mae wedi llosgi Ar yn Moab
ac arweinwyr ucheldir Arnon.
29 Mae hi ar ben arnat ti, Moab!
Dych chi bobl sy'n addoli Chemosh wedi'ch difa.
Mae eich meibion yn ffoaduriaid,
a'ch merched wedi'u cymryd yn gaethion,
gan Sihon, brenin yr Amoriaid.
30 Dŷn ni wedi'u difa nhw'n llwyr
o Cheshbon yr holl ffordd i Dibon.
Dŷn ni wedi'u taro nhw i lawr
yr holl ffordd i Noffa a Medeba.”
31 Felly roedd pobl Israel yn byw yng ngwlad yr Amoriaid. 32 Dyma Moses yn anfon ysbiwyr i edrych ar dref Iaser. A dyma nhw'n dal y pentrefi yno, a gyrru allan yr Amoriaid oedd yn byw yno. 33 Wedyn dyma nhw'n troi i'r gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og, brenin Bashan yn dod â'i fyddin gyfan i ymladd yn eu herbyn nhw yn Edrei. 34 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Paid bod â'i ofn. Dw i'n mynd i roi Og a'i fyddin a'i dir i gyd i ti. Byddi'n gwneud yr un fath iddo fe ag a wnest ti i Sihon brenin yr Amoriaid oedd yn byw yn Cheshbon.” 35 Felly dyma Israel yn ennill y frwydr yn erbyn Og a'i feibion a'i fyddin. Cawson nhw i gyd eu lladd. A dyma Israel yn cymryd y tir.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity