|
|
“Daeth Balac â fi yma o Aram;
daeth brenin Moab â fi o fynyddoedd y dwyrain:
‘Tyrd i felltithio Jacob i mi,’ meddai,
‘tyrd i gondemnio Israel!’
pan mae Duw ddim yn gwneud?
Sut alla i gondemnio'r rhai
dydy'r
ARGLWYDD ddim am eu condemnio?9 Dw i'n eu gweld nhw o ben y creigiau.
Dw i'n eu gwylio nhw o ben y bryniau.
Maen nhw'n bobl unigryw,
yn wahanol i'r gwledydd eraill.
10 Mae Jacob fel llwch – pwy all eu cyfrif?
Oes rhywun yn gallu cyfrif eu chwarter nhw?
Dw i am farw fel un wnaeth y peth iawn.
Dw i am i'r diwedd i mi fod fel eu diwedd nhw.”
11 A dyma Balac yn dweud wrth Balaam, “Beth wyt ti wedi'i wneud? Dw i wedi dod â ti yma i felltithio'r gelyn! A dyma ti'n eu bendithio nhw!” 12 A dyma Balaam yn ateb, “Rhaid i mi fod yn ofalus fy mod i ddim ond yn dweud beth mae'r ARGLWYDD wedi'i roi i mi.”“Saf ar dy draed, Balac, a gwrando.
Gwranda'n ofalus, fab Sippor:
19 Nid dyn sy'n dweud celwydd ydy Duw.
Dydy e ddim yn berson dynol sy'n newid ei feddwl.
Ydy e'n dweud, a ddim yn gwneud?
Ydy e'n addo, a ddim yn cyflawni? Na!
20 Mae e wedi dweud wrtho i am fendithio;
Mae e wedi bendithio, a dw i ddim yn gallu newid hynny.
21 Dydy e'n gweld dim drwg yn Jacob,
nac yn gweld dim o'i le ar Israel.
Mae'r
ARGLWYDD eu Duw gyda nhw;mae e wedi'i gyhoeddi yn frenin arnyn nhw.
22 Duw sydd wedi dod â nhw allan o'r Aifft;
mae e'n gryf fel ych gwyllt.
23 Does dim swyn yn gwneud drwg i Jacob,
na dewiniaeth yn erbyn Israel.
Rhaid dweud am Jacob ac Israel,
‘Duw sydd wedi gwneud hyn!’
24 Bydd y bobl yn codi fel llewes,
ac yn torsythu fel llew.
Fyddan nhw ddim yn gorwedd nes bwyta'r ysglyfaeth
ac yfed gwaed y lladdfa.”
25 A dyma Balac yn dweud wrth Balaam, “Paid melltithio nhw o gwbl, a paid bendithio nhw chwaith.” 26 Ond dyma Balaam yn ei ateb, “Wnes i ddim dweud fod rhaid i mi wneud beth mae'r ARGLWYDD yn ddweud?”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity