NUMERI 25
Pobl Israel a Baal-peor
1 Pan oedd pobl Israel yn aros yn Sittim, dyma'r dynion yn dechrau cael rhyw gyda merched Moab.
2 Roedd y merched wedi'u gwahodd nhw i wyliau crefyddol eu duwiau. A dyma nhw'n gwledda gyda nhw a dechrau addoli eu duwiau.
3 Cyn pen dim, roedd Israel wedi uno gyda Baal-peor. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio'n lân gyda phobl Israel,
4 a dyma fe'n dweud wrth Moses, “Rhaid i ti arestio'r rhai sydd wedi arwain y drwg yma, a'u lladd nhw o flaen yr ARGLWYDD ganol dydd, er mwyn i'r ARGLWYDD beidio bod mor wyllt gydag Israel.”
5 Felly dyma Moses yn dweud wrth arweinwyr llwythau Israel, “Rhaid i chi ddienyddio'r dynion yn eich llwyth chi sydd wedi ymuno i addoli Baal-peor.”
6 Wrth iddo ddweud hyn, a phobl Israel yn wylo a galaru o flaen y fynedfa i babell presenoldeb Duw, dyma un o ddynion Israel yn dod ag un o ferched y Midianiaid i'r gwersyll. Gwelodd Moses a phawb y peth yn digwydd.
7 A dyma Phineas (mab Eleasar yr offeiriad, ac ŵyr Aaron) yn codi a gafael mewn gwaywffon,
8 a mynd ar ôl y dyn i'r babell. A dyma fe'n gwthio'r waywffon drwy'r ddau ohonyn nhw – drwy'r dyn ac i mewn i stumog y ferch. A dyma'r pla oedd yn lledu drwy ganol pobl Israel yn stopio.
9 Roedd 24,000 o bobl wedi marw o'r pla.
10 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
11 “Mae Phineas, mab Eleasar ac ŵyr Aaron yr offeiriad, wedi tawelu fy llid yn erbyn Israel. Dangosodd y fath sêl drosto i, wnes i ddim bwrw ymlaen i ddinistrio pobl Israel i gyd.
12 Felly dywed wrtho fy mod yn gwneud ymrwymiad o heddwch gydag e;
13 ymrwymiad mai fe a'i ddisgynyddion fydd yn offeiriaid am byth. Am ei fod wedi dangos y fath sêl dros ei Dduw, ac wedi gwneud pethau'n iawn rhwng Duw a phobl Israel.”
14 Enw'r dyn gafodd ei ladd ganddo – y dyn gafodd ei drywanu gyda'r ferch o Midian – oedd Simri fab Salw, pennaeth teulu o lwyth Simeon.
15 Ac enw'r ferch o Midian oedd Cosbi, merch Swr, pennaeth un o lwythau Midian.
16 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
17 “Dw i am i chi drin y Midianiaid fel gelynion, a'u dinistrio nhw.
18 Maen nhw wedi dod yn elynion i chi drwy eich denu chi i addoli y Baal o Peor. A hefyd drwy beth ddigwyddodd gyda Cosbi, merch un o'u tywysogion nhw gafodd ei lladd y diwrnod roedd y pla yn lledu o achos Peor.”
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity