Yn ôl

Numeri

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

NUMERI 26

Yr ail gyfrifiad

1 Ar ôl i'r pla orffen, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, ac wrth Eleasar fab Aaron, yr offeiriad: 2 “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad arall o bobl Israel – pawb o bob llwyth sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin.”

3 Ar y pryd, roedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. A dyma Moses ac Eleasar yn dweud wrthyn nhw, 4 “Rhaid cyfrif pawb dros ugain oed.” Dyna oedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn i Moses.

A dyma bobl Israel ddaeth allan o wlad yr Aifft:

Llwyth Reuben

  • 5 O lwyth Reuben (mab hynaf Jacob) – disgynyddion Chanoch, Palw,
6 Hesron, a Carmi. 7 Cyfanswm Reuben oedd 43,730. 8 (Roedd Eliab yn un o ddisgynyddion Palw, 9 sef tad Nemwel, Dathan ac Abiram. Roedd Dathan ac Abiram gyda Cora yn arwain y bobl wnaeth droi yn erbyn Moses ac Aaron a gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD. 10 A dyma'r ddaear yn agor ac yn eu llyncu nhw a Cora. Lladdodd y tân ddau gant pum deg ohonyn nhw. Mae beth ddigwyddodd iddyn nhw yn rhybudd i ni. 11 Ond wnaeth llinach Cora ei hun ddim diflannu'n llwyr.)

Llwyth Simeon

  • 12 O lwyth Simeon – disgynyddion Nemwel, Iamîn, Iachîn,
13 Serach, a Saul. 14 Cyfanswm Simeon oedd 22,200.

Llwyth Gad

  • 15 O lwyth Gad – disgynyddion Seffon, Haggi, Shwni,
16 Osni, Eri, 17 Arod, ac Areli. 18 Cyfanswm Gad oedd 40,500.

Llwyth Jwda

  • 19 Roedd gan Jwda ddau fab, Er ac Onan, ond buodd y ddau farw yn fuan yn Canaan.
20 O lwyth Jwda – disgynyddion Shela, Perets, a Serach. 21 Ac o Perets – disgynyddion Hesron a Chamŵl. 22 Cyfanswm Jwda oedd 76,500.

Llwyth Issachar

  • 23 O lwyth Issachar – disgynyddion Tola, Pwa,
24 Iashŵf, a Shimron. 25 Cyfanswm Issachar oedd 64,300.

Llwyth Sabulon

  • 26 O lwyth Sabulon – disgynyddion Sered, Elon, a Iachleël.
27 Cyfanswm Sabulon oedd 60,500.

Llwythau Manasse ac Effraim

  • 28 Roedd dau lwyth, sef Manasse ac Effraim, yn ddisgynyddion i Joseff.
29 O lwyth Manasse – disgynyddion Machir a'i fab Gilead. 30 O Gilead – disgynyddion Ieser, Chelec, 31 Asriel, Sechem, 32 Shemida, a Cheffer. 33 (Doedd gan Seloffchad fab Cheffer ddim meibion, dim ond merched. Ac enwau'r merched oedd Machla, Noa, Hogla, Milca a Tirtsa.) 34 Cyfanswm Manasse oedd 52,700.
  • 35 O lwyth Effraim – disgynyddion Shwtelach, Becher, a Tachan.
36 Ac o Shwtelach – disgynyddion Eran. 37 Cyfanswm Effraim oedd 32,500. Roedden nhw i gyd yn ddisgynyddion Joseff, drwy Manasse ac Effraim.

Llwyth Benjamin

  • 38 O lwyth Benjamin – disgynyddion Bela, Ashbel, Achiram,
39 Sheffwffâm, a Chwffam. 40 Wedyn o feibion Bela – disgynyddion Ard a Naaman. 41 Cyfanswm Benjamin oedd 45,600.

Llwyth Dan

  • 42 O lwyth Dan – disgynyddion Shwcham. Y Shwchamiaid oedd disgynyddion Dan,
43 a'u cyfanswm nhw oedd 64,400.

Llwyth Asher

  • 44 O lwyth Asher – disgynyddion Imna, Ishfi, a Bereia.
45 Wedyn o feibion Bereia – disgynyddion Heber a Malciel. 46 Roedd gan Asher ferch hefyd, sef Serach. 47 Cyfanswm Asher oedd 53,400.

Llwyth Nafftali

  • 48 O lwyth Nafftali – disgynyddion Iachtseël, Gwni,
49 Ietser, a Shilem. 50 Cyfanswm Nafftali oedd 45,400.

Crynodeb

51 Felly cyfanswm y dynion gafodd eu cyfri yn Israel oedd 601,730.

52 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 53 “Mae'r tir i gael ei rannu rhwng y llwythau ar sail y ffigyrau yma. 54 Mae'r llwythau mwyaf i gael etifeddu mwy o dir na'r llwythau lleiaf. Mae faint o dir fydd pob llwyth yn ei gael yn seiliedig ar y ffigyrau yma. 55 Rhaid defnyddio coelbren wrth rannu'r tir, ond mae canlyniadau'r cyfrifiad i gael eu defnyddio i benderfynu faint o dir mae pob llwyth yn ei gael. 56 Bydd y tir mae'r llwythau bach a mawr yn ei etifeddu yn cael ei bennu drwy daflu coelbren.”

Llwyth Lefi

57 A dyma'r Lefiaid gafodd eu cyfrif – disgynyddion Gershon, Cohath a Merari. 58 A disgynyddion eraill Lefi – y Libniaid, Hebroniaid, Machliaid, Mwshiaid a Corahiaid. Cohath oedd tad Amram, 59 ac enw gwraig Amram oedd Iochefed, merch Lefi, gafodd ei geni yn yr Aifft. Wedyn plant Amram a Iochefed oedd Aaron, Moses, a Miriam eu chwaer. 60 Roedd Aaron yn dad i Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar. 61 Ond roedd Nadab ac Abihw wedi marw wrth ddefnyddio tân o rywle arall i wneud offrwm i'r ARGLWYDD. Ref 62 Roedd 23,000 o Lefiaid – pob dyn a bachgen oedd dros fis oed. Doedden nhw ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel am fod dim tir i gael ei roi iddyn nhw fel i weddill llwythau Israel.

63 Felly dyna ffigyrau'r cyfrifiad wnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad pan oedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. 64 Doedd neb o'r dynion gafodd eu cyfrif y tro yma wedi'u cynnwys yn y cyfrifiad cyntaf wnaeth Moses ac Aaron yn anialwch Sinai. 65 Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, “Byddan nhw i gyd yn marw yn yr anialwch!” A doedd neb ohonyn nhw ar ôl, ar wahân i Caleb fab Jeffwnne a Josua fab Nwn.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity