Yn ôl

Numeri

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

NUMERI 27

Merched Seloffchad

1 Dyma ferched Seloffchad yn dod ymlaen. Roedd eu tad yn fab i Cheffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse – o glan Manasse fab Joseff. Enwau'r merched oedd Machla, Noa, Hogla, Milca a Tirtsa. 2 Dyma nhw'n dod a sefyll o flaen Moses ac Eleasar yr offeiriad, ac arweinwyr y bobl i gyd, wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw. 3 “Buodd dad farw yn yr anialwch,” medden nhw. “Doedd e ddim yn un o'r rhai wnaeth wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD gyda Cora. Buodd e farw o achos ei bechod ei hun. Ond doedd ganddo fe ddim meibion. 4 Pam ddylai enw dad ddiflannu o hanes y teulu am fod ganddo ddim meibion? Rho dir i ni ei etifeddu gyda brodyr ein tad.”

5 Felly dyma Moses yn mynd â'r achos o flaen yr ARGLWYDD. 6 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 7 “Mae merched Seloffchad yn iawn. Rho dir iddyn nhw ei etifeddu gyda brodyr eu tad. Dylen nhw gael siâr eu tad o'r tir. 8 Felly rhaid i ti ddweud hyn wrth bobl Israel, ‘Os ydy dyn yn marw heb gael mab, rhaid i'r etifeddiaeth gael ei rhoi i'w ferch. 9 Os oes ganddo ddim merch chwaith, rhaid i'r etifeddiaeth fynd i'w frodyr. 10 Ac os oes ganddo ddim brodyr, mae'r etifeddiaeth i fynd i frodyr ei dad. 11 Ond os oes gan ei dad ddim brodyr chwaith, mae'r etifeddiaeth i gael ei rhoi i'r perthynas agosaf yn y teulu.’” Dyma fydd y drefn gyfreithiol yn Israel, yn union fel mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

Josua i olynu Moses

(Deuteronomium 31:1-8)

12 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dringa i ben mynyddoedd Afarîm, i ti weld y tir dw i'n ei roi i bobl Israel. 13 Ar ôl i ti gael ei weld, byddi di, fel Aaron dy frawd, yn marw, 14 am i'r ddau ohonoch chi wrthod gwneud beth ddwedais i yn anialwch Sin. Roedd y bobl wedi gwrthryfela a dangos dim parch ata i wrth y dŵr,” (sef Ffynnon Meriba yn Cadesh yn anialwch Sin).

15 Yna dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD: 16 “O ARGLWYDD, y Duw sy'n rhoi bywyd i bopeth byw, rhaid i ti benodi rhywun i arwain y bobl. 17 Rhaid cael rhywun i'w harwain nhw allan i ryfel, a dod â nhw adre wedyn, neu bydd pobl yr ARGLWYDD fel defaid heb fugail i ofalu amdanyn nhw!”

18-19 A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Dw i eisiau i ti gymryd Josua fab Nwn – dyn sydd â'r Ysbryd ynddo – a'i gomisiynu e i'r gwaith drwy osod dy law arno. Gwna hyn yn gyhoeddus o flaen Eleasar yr offeiriad a'r bobl i gyd. 20 Maen nhw i weld dy fod wedi trosglwyddo'r awdurdod sydd gen ti iddo fe, ac wedyn byddan nhw'n ufuddhau iddo. 21 Bydd yn mynd at Eleasar yr offeiriad pan fydd angen arweiniad arno, a bydd Eleasar yn defnyddio'r Wrim i ddarganfod beth mae'r ARGLWYDD eisiau – pryd i fynd allan i ymladd, a pryd i ddod yn ôl.”

22 Felly dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Dyma fe'n gwneud i Josua sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad a'r bobl i gyd. 23 Yna dyma fe'n ei gomisiynu i'r gwaith drwy osod ei ddwylo arno, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses am wneud.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity