|
|
(Exodus 29:38-46)
1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2 “Rho'r gorchymyn yma i bobl Israel: ‘Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich offrymau i mi ar yr adegau iawn. Mae'r offrymau yma sy'n cael eu llosgi ar yr allor fel bwyd sy'n arogli'n hyfryd i mi.’ 3 Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma'r offrwm sydd i gael ei losgi i'r ARGLWYDD: Dau oen blwydd oed heb ddim byd o'i le arnyn nhw, i'w cyflwyno'n rheolaidd fel offrwm i'w losgi'n llwyr. 4 Rhaid i'r oen cyntaf gael ei gyflwyno yn y bore, a'r llall pan mae'n dechrau nosi. 5 Mae pob oen i'w gyflwyno gyda cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gyda litr o olew olewydd. 6 Mae'r offrwm rheolaidd yma i gael ei losgi'n llwyr. Cafodd ei sefydlu ar Fynydd Sinai, yn offrwm fyddai'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD. 7 Ac mae offrwm o ddiod i fynd gydag e – litr am bob oen. Mae'r cwrw haidd yma i gael ei dywallt yn offrwm i'r ARGLWYDD yn y cysegr. 8 “‘Yna, mae'r ail oen i gael ei offrymu pan mae'n dechrau nosi. Mae'r un offrwm o rawn ac offrwm o ddiod i fynd gydag e. Mae hwn eto i gael ei losgi'n llwyr, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.(Lefiticus 23:5-14)
16 “‘Mae Pasg yr ARGLWYDD i gael ei ddathlu ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf. Ref Croes 17 Yna mae Gŵyl arallCroes yn dechrau ar y pymthegfed o'r mis. Dim ond bara sydd heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta. 18 Ar y diwrnod cyntaf, rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. 19 Rhaid i chi gyflwyno rhodd i'r ARGLWYDD bob dydd, sef offrwm i'w losgi'n llwyr – dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed. Gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le arnyn nhw. 20 Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd, 21 ac un cilogram ar gyfer pob oen. 22 Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi a Duw. 23 Mae'r rhain i gyd yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi'n llwyr bob bore. 24 Maen nhw i gael eu hoffrymu bob dydd am saith diwrnod, yn fwyd i'w losgi i'r ARGLWYDD, ac sy'n arogli'n hyfryd iddo. Mae'r rhain yn ychwanegol at yr offrymau sy'n cael eu llosgi'n rheolaidd, a'r offrymau o ddiod sy'n mynd gyda nhw. 25 Yna ar y seithfed diwrnod rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli eto. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.(Lefiticus 23:15-22)
26 “‘Ar ddiwrnod cynnyrch cyntaf y cynhaeaf, pan fyddwch yn dod â'r offrwm o rawn newydd i'r ARGLWYDD yn ystod Gŵyl y Cynhaeaf, Ref rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. 27 Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd iddo: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed. 28 Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd, 29 ac un cilogram ar gyfer pob oen. 30 Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi a Duw. 31 Mae'r rhain i gyd, gyda'u hoffrymau o ddiod, yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi'n llwyr, a'r offrwm o rawn sy'n mynd gyda hwnnw. A gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le ar yr anifeiliaid sy'n cael eu hoffrymu.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity