Yn ôl

Numeri

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

NUMERI 3

Meibion Aaron

1 Dyma hanes teulu Aaron a Moses pan wnaeth yr ARGLWYDD siarad gyda Moses ar Fynydd Sinai:

2 Enwau meibion Aaron oedd Nadab (y mab hynaf), Abihw, Eleasar ac Ithamar. 3 Cawson nhw eu heneinio a'u cysegru i wasanaethu fel offeiriaid. 4 Ond roedd Nadab ac Abihw wedi marw yn anialwch Sinai wrth ddefnyddio tân o rywle arall i wneud offrwm i'r ARGLWYDD. Doedd ganddyn nhw ddim plant. Felly Eleasar ac Ithamar oedd yn gwasanaethu fel offeiriaid gyda'u tad Aaron.

Llwyth Lefi i wasanaethu fel offeiriaid

5 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 6 “Tyrd â llwyth Lefi at Aaron, a'u rhoi nhw iddo fel ei helpwyr. 7 Byddan nhw'n gwasanaethu Aaron a'r bobl i gyd o flaen pabell presenoldeb Duw. Nhw fydd yn gyfrifol am wneud yr holl waith yn y Tabernacl. 8 Byddan nhw'n gofalu am holl offer pabell presenoldeb Duw, ac yn gwasanaethu yn y Tabernacl ar ran pobl Israel. 9 Rwyt i roi'r Lefiaid i Aaron a'i feibion fel eu helpwyr. Maen nhw i weithio iddo fe a neb arall. 10 Aaron a'i feibion sydd i'w penodi'n offeiriaid. Os ydy unrhyw un arall yn mynd yn rhy agos i'r cysegr, y gosb ydy marwolaeth.”

11 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 12 “Dw i wedi cymryd y Lefiaid i mi fy hun, yn lle'r mab cyntaf i ddod allan o groth pob gwraig yn Israel. Fi piau'r Lefiaid, 13 am mai fi piau pob mab cyntaf. Rôn i wedi cysegru pob mab ac anifail cyntaf i gael ei eni i mi fy hun, pan wnes i ladd y rhai cyntaf i gael eu geni yng ngwlad yr Aifft. Felly fi piau pob un cyntaf i gael ei eni. Fi ydy'r ARGLWYDD.”

Cyfri'r Lefiaid

14 Yna dyma'r ARGLWYDD yn siarad gyda Moses yn anialwch Sinai: 15 “Dw i eisiau i ti gyfri'r Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd estynedig a'u claniau – pob dyn, a phob bachgen sydd dros fis oed.” 16 Felly dyma Moses yn eu cyfri nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
  • 17 Enwau meibion Lefi oedd Gershon, Cohath a Merari.
  • 18 Enwau claniau meibion Gershon oedd Libni a Shimei.
  • 19 Enwau claniau meibion Cohath oedd Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel.
  • 20 Enwau claniau meibion Merari oedd Machli a Mwshi.

Y rhain oedd teuluoedd Lefi yn ôl eu claniau.
  • 21 Disgynyddion Gershon oedd claniau Libni a Simei –
22 sef 7,500 o ddynion a bechgyn oedd dros fis oed. 23 Roedd teuluoedd y Gershoniaid i wersylla tu ôl i'r Tabernacl, i'r gorllewin. 24 Ac arweinydd y Gershoniaid oedd Eliasaff fab Laël. 25 Cyfrifoldeb y Gershoniaid oedd pabell y Tabernacl, y gorchudd, y sgrîn o flaen y fynedfa i babell presenoldeb Duw, 26 llenni'r iard oedd o gwmpas y Tabernacl a'r allor, y sgrîn o flaen y fynedfa i'r iard, y rhaffau, a phopeth arall oedd ag unrhyw beth i'w wneud â'r rhain.
  • 27 Disgynyddion Cohath oedd claniau Amram, Its'har, Hebron ac Wssiel –
28 sef 8,600 o ddynion a bechgyn oedd dros fis oed. Nhw oedd yn gyfrifol am y cysegr. 29 Roedd teuluoedd y Cohathiaid i wersylla i'r de o'r Tabernacl. 30 Ac arweinydd y Cohathiaid oedd Elitsaffan fab Wssiel. 31 Nhw oedd yn gyfrifol am yr Arch, y bwrdd, y menora (sef y stand i'r lampau), yr allorau, unrhyw offer oedd yn cael ei ddefnyddio yn y cysegr, y gorchudd mewnol, a phopeth arall oedd ag unrhyw beth i'w wneud â'r rhain.
  • 32 Eleasar, mab Aaron oedd pennaeth arweinwyr y Lefiaid. Roedd ganddo gyfrifoldeb arbennig i oruchwylio'r rhai oedd yn gyfrifol am y cysegr.
  • 33 Disgynyddion Merari oedd claniau Machli a Mwshi –
34 sef 6,200 o ddynion a bechgyn oedd dros fis oed. 35 Arweinydd y Merariaid oedd Swriel fab Afichaïl. Roedden nhw i wersylla i'r gogledd o'r Tabernacl. 36 Cyfrifoldeb y Merariaid oedd fframiau'r Tabernacl, y croesfarrau, y polion, y socedi, y llestri i gyd, a phopeth arall oedd ag unrhyw beth i'w wneud â'r rhain. 37 Hefyd, polion yr iard i gyd, gyda'i socedi, pegiau a rhaffau.

38 Yr unig rai oedd i wersylla ar yr ochr ddwyreiniol, o flaen y Tabernacl, oedd Moses ac Aaron a'i feibion. Nhw oedd yn gyfrifol am y cysegr ar ran pobl Israel. Os oedd unrhyw un arall yn mynd yn rhy agos i'r cysegr, y gosb oedd marwolaeth.

39 Nifer y Lefiaid i gyd, gafodd eu cyfri gan Moses ac Aaron, oedd 22,000 o ddynion a bechgyn dros fis oed.

Y Lefiaid yn cymryd lle'r meibion hynaf

40 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dw i eisiau i ti gyfri pob un o'r Israeliaid sy'n fab hynaf, o fis oed i fyny, a chofrestru enw pob un. 41 Mae'r Lefiaid i gael eu rhoi i mi yn lle meibion hynaf yr Israeliaid – cofia mai fi ydy'r ARGLWYDD. A fi piau anifeiliaid y Lefiaid hefyd, yn lle pob anifail cyntaf i gael ei eni i anifeiliaid pobl Israel.”

42 Felly dyma Moses yn cyfrif pob un o feibion hynaf yr Israeliaid, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. 43 Y nifer gafodd eu cyfrif a'u cofrestru oedd 22,273.

44 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 45 “Cymer y Lefiaid yn lle meibion hynaf pobl Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid nhw. Fi fydd piau'r Lefiaid. Fi ydy'r ARGLWYDD. 46 Mae nifer y meibion hynaf ddau gant saith deg tri yn fwy na nifer y Lefiaid. Rwyt i brynu rhyddid i'r dau gant saith deg tri 47 drwy gasglu pum darn arian am bob un ohonyn nhw. Dylid ei dalu gydag arian y cysegr, sef darnau arian sy'n pwyso dau ddeg gera yr un. 48 Rho'r arian yma i Aaron a'i feibion.”

49 Felly dyma Moses yn casglu'r arian i brynu'n rhydd y meibion hynaf oedd dros ben. 50 Casglodd 1,365 sicl, sef tua un deg pump cilogram o arian. 51 Yna dyma Moses yn rhoi'r arian i Aaron a'i feibion, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity