Yn ôl

Numeri

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

NUMERI 34

Ffiniau'r wlad

1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2 “Dwed wrth bobl Israel: ‘Pan ewch chi i mewn i wlad Canaan, dyma'r ffiniau i'r tir dw i'n ei roi i chi i'w etifeddu: 3 Bydd ffin y de yn mynd o anialwch Sin i'r ffin gydag Edom. Bydd yn ymestyn i'r dwyrain at ben isaf y Môr Marw. Ref 4 Bydd yn mynd i'r de, heibio Bwlch Acrabbîm (sef ‛Bwlch y Sgorpion‛), ymlaen i Sin ac yna i gyfeiriad Cadesh-barnea, ac wedyn i Chatsar-adar a throsodd i Atsmon. 5 O'r fan honno bydd y ffin yn troi i ddilyn Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir.

6 “‘Y Môr Mawr (sef Môr y Canoldir) fydd y ffin i'r gorllewin.

7 “‘Bydd ffin y gogledd yn mynd o Fôr y Canoldir i Fynydd Hor, 8 ac yna i Fwlch Chamath ac ymlaen i Sedad. 9 Yna o Sedad ymlaen i Siffron, ac wedyn i Chatsar-einan. Dyna fydd ffin y gogledd.

10 “‘Bydd ffin y dwyrain yn mynd i gyfeiriad y de o Chatsar-einan i Sheffam; 11 wedyn o Sheffam i Ribla sydd i'r dwyrain o Ain. Yna i lawr ochr ddwyreiniol Llyn Galilea, 12 ac ar hyd afon Iorddonen yr holl ffordd i'r Môr Marw. Ref Dyna fydd y ffiniau o gwmpas eich tir chi.’”

13 A dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel: “Dyma'r tir fydd yn cael ei rannu rhyngoch chi. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud ei fod i gael ei roi i'r naw llwyth a hanner sydd ar ôl. 14 Mae llwythau Reuben a Gad, a hanner llwyth Manasse, wedi cael eu tir nhw. 15 Maen nhw wedi cael tir yr ochr yma i'r Iorddonen, sef i'r dwyrain o Jericho.”

Y dynion sydd i rannu'r tir

16 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 17 “Dyma'r dynion fydd yn gyfrifol am rannu'r tir rhyngoch chi: Eleasar yr offeiriad a Josua fab Nwn. 18 A rhaid i chi gymryd un arweinydd o bob llwyth i helpu gyda'r gwaith.” 19-28 Dyma enwau'r arweinwyr ddewisodd yr ARGLWYDD:
Arweinydd Llwyth
Caleb fab Jeffwnne Jwda
Shemwel fab Amihwd Simeon
Elidad fab Cislon Benjamin
Bwcci fab Iogli Dan
Channiel fab Effod Manasse
Cemwel fab Shifftan Effraim
Elitsaffan fab Parnach Sabulon
Paltiel fab Assan Issachar
Achihwd fab Shelomi Asher
Pedahel fab Amihwd Nafftali

29 Y rhain gafodd eu dewis gan yr ARGLWYDD i fod yn gyfrifol am rannu tir Canaan rhwng pobl Israel.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity