|
|
(Deuteronomium 19:1-13; Josua 20:1-9)
9 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 10 “Dwed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch chi'n croesi'r Iorddonen i wlad Canaan, 11 rhaid i chi ddarparu rhai trefi yn drefi lloches. Bydd rhywun sydd wedi lladd person arall drwy ddamwain yn gallu dianc yno. 12 Bydd y trefi yma yn lle saff i ddianc rhag perthynas yr un gafodd ei ladd, sydd am ddial. Ddylai'r lladdwr ddim cael ei ladd cyn sefyll ei brawf o flaen y bobl. 13 Rhaid darparu chwe tref lloches – 14 tair yr ochr yma i afon Iorddonen a thair yn Canaan. 15 Bydd y chwe tref yma yn drefi lloches i bobl Israel, i bobl o'r tu allan ac i fewnfudwyr. Gall unrhyw un sy'n lladd person arall drwy ddamwain ddianc iddyn nhw. 16 “‘Ond mae rhywun sy'n taro person arall yn farw â bar haearn yn llofrudd. Rhaid gweinyddu'r gosb eithaf – mae'n llofrudd. 17 Neu os ydy e'n taflu carreg ddigon mawr i ladd rhywun at berson arall, a'r person hwnnw'n marw, mae'n llofrudd. Rhaid i'r llofrudd farw. 18 Neu os ydy e'n taro rhywun yn farw â darn o bren, mae'n llofrudd. Rhaid i'r llofrudd farw. 19 Mae gan berthynas agosaf y person gafodd ei lofruddio hawl i ladd y llofrudd yn y fan a'r lle. 20 Os ydy rhywun yn lladd person arall drwy ei daro â rhywbeth neu daflu rhywbeth ato'n fwriadol, 21 neu drwy roi dyrnod iddo, mae'n llofrudd. Rhaid i'r llofrudd farw. Rhaid i berthynas agosaf y person gafodd ei lofruddio ladd y llofrudd yn y fan a'r lle. 22 “‘Ond os oedd wedi taro'r person arall neu daflu rhywbeth ato a'i daro'n ddamweiniol, 23 neu ollwng carreg ddigon mawr i'w ladd, heb fod wedi'i weld (hynny ydy, os oedd yna ddim casineb na bwriad i wneud drwg i'r person arall), 24 rhaid i'r bobl farnu'r achos rhwng yr un sy'n cael ei gyhuddo o ladd a'r perthynas agosaf sydd am ddial arno. 25 Rhaid i'r bobl amddiffyn y lladdwr rhag y perthynas agosaf sydd am ddial arno. A rhaid anfon y lladdwr i fyw yn y dref lloches agosaf. Bydd rhaid iddo aros yno nes bydd yr archoffeiriad, gafodd ei eneinio â'r olew cysegredig, wedi marw. 26 Ond os ydy'r un sy'n cael ei gyhuddo o'r drosedd yn gadael y dref lloches mae wedi dianc iddi, 27 a pherthynas agosaf yr un gafodd ei lofruddio yn dial arno a'i ladd, fydd hynny ddim yn cael ei ystyried yn llofruddiaeth. 28 Dylai fod wedi aros yn y dref lloches nes i'r archoffeiriad farw. Ar ôl i'r archoffeiriad farw, mae'n rhydd i fynd yn ôl adre. 29 “‘Dyma fydd y drefn gyfreithiol ar hyd y cenedlaethau, lle bynnag fyddwch chi'n byw. 30 Mae pob llofrudd i gael ei ddienyddio, ond rhaid cael tystion. Dydy un tyst ddim yn ddigon i rywun gael ei ddedfrydu i farwolaeth. 31 A rhaid peidio derbyn arian yn lle rhoi'r llofrudd i farwolaeth. Rhaid i bob llofrudd gael ei ddienyddio. 32 Rhaid peidio derbyn arian chwaith i ollwng rhywun sydd wedi dianc i dref lloches yn rhydd, fel ei fod yn gallu mynd yn ôl adre i fyw cyn marwolaeth yr archoffeiriad. 33 Peidiwch llygru'r tir lle dych chi'n byw – mae llofruddiaeth yn llygru'r tir! A does dim byd yn gwneud iawn am lofruddiaeth ond dienyddio'r llofrudd. 34 Peidiwch gwneud y tir ble dych chi'n byw yn aflan, achos dyna ble dw i'n byw hefyd. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n byw gyda fy mhobl Israel.’”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity