Yn ôl

Numeri

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

NUMERI 8

Gosod y Lampau

1 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2 “Dwed wrth Aaron, ‘Pan fyddi'n gosod y lampau yn eu lle, gwna'n siŵr fod y saith lamp yn taflu'u golau o flaen y menora.’” 3 A dyma Aaron yn gwneud hynny. Dyma fe'n gosod y lampau fel eu bod yn taflu'u golau o flaen y menora, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. 4 Gwaith morthwyl oedd y menora – aur wedi'i guro. Roedd yn waith morthwyl o'i goes i'w betalau. Cafodd ei wneud i'r union batrwm roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddangos i Moses.

Puro a chysegru'r Lefiaid

5 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 6 “Rwyt i gymryd y Lefiaid o blith pobl Israel a mynd drwy'r ddefod o'u puro nhw. 7 A dyma sut mae gwneud hynny: Rwyt i daenellu dŵr y puro arnyn nhw. Wedyn rhaid iddyn nhw siafio'u corff i gyd, golchi eu dillad, ac ymolchi. 8 Wedyn maen nhw i gymryd tarw ifanc, gyda'i offrwm o rawn (sef y blawd gwenith gorau wedi'i gymysgu gydag olew olewydd). Yna cymryd tarw ifanc arall yn offrwm puro. 9 Wedyn rwyt i fynd â'r Lefiaid i sefyll o flaen pabell presenoldeb Duw, a chasglu pobl Israel i gyd at ei gilydd yno. 10 Yna mae'r bobl i osod eu dwylo ar y Lefiaid tra maen nhw'n sefyll o flaen yr ARGLWYDD. 11 Wedyn mae Aaron i gyflwyno'r Lefiaid i'r ARGLWYDD fel offrwm sbesial gan bobl Israel, i'w cysegru nhw i waith yr ARGLWYDD. 12 Wedyn bydd y Lefiaid yn gosod eu dwylo ar ben y ddau darw ifanc. Bydd un yn offrwm puro, a'r llall yn cael ei offrymu i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, i wneud pethau'n iawn rhwng Duw a'r Lefiaid. 13 Yna mae'r Lefiaid i sefyll o flaen Aaron a'i feibion, i'w cyflwyno nhw'n offrwm sbesial i'r ARGLWYDD. 14 A dyna sut mae'r Lefiaid i gael eu gosod ar wahân i weddill pobl Israel. Fi fydd piau'r Lefiaid.”

15 “Bydd y Lefiaid wedyn yn mynd i wneud eu gwaith yn y Tabernacl, ar ôl cael eu puro a'u cyflwyno'n offrwm sbesial i mi. 16 Maen nhw wedi cael eu rhoi i weithio i mi yn unig. Dw i'n eu cymryd nhw yn lle meibion hynaf pobl Israel. 17 Fi piau'r meibion hynaf i gyd, a hefyd bob anifail cyntaf i gael ei eni. Rôn i wedi'u cysegru nhw i mi fy hun pan wnes i ladd pob mab ac anifail cyntaf i gael ei eni yng ngwlad yr Aifft. 18 Ond dw i wedi cymryd y Lefiaid yn lle meibion hynaf pobl Israel. 19 A dw i wedi rhoi'r Lefiaid i Aaron a'i feibion i weithio ar ran pobl Israel yn y Tabernacl. Hefyd i wneud pethau'n iawn rhwng Duw a phobl Israel, fel bod dim pla yn taro pobl Israel pan maen nhw'n mynd yn agos i'r cysegr.”

20 Felly dyma Moses ac Aaron a phobl Israel i gyd yn cysegru'r Lefiaid. Dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. 21 Dyma'r Lefiaid yn mynd drwy'r ddefod o buro'u hunain, a golchi eu dillad. Yna dyma Aaron yn eu cyflwyno nhw yn offrwm sbesial i'r ARGLWYDD. Ac wedyn dyma fe'n mynd drwy'r ddefod o wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw a Duw, er mwyn eu puro nhw. 22 Wedi hynny, dyma'r Lefiaid yn mynd i'r Tabernacl i wneud eu gwaith, yn helpu Aaron a'i feibion. Dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

23 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 24 “Dyma fydd y drefn gyda'r Lefiaid: Maen nhw'n cael dechrau gweithio yn y Tabernacl yn ddau ddeg pump oed, 25 a rhaid iddyn nhw ymddeol pan fyddan nhw'n bum deg oed. 26 Ar ôl ymddeol, maen nhw'n cael dal i helpu'r Lefiaid eraill pan mae angen, ond fyddan nhw ddim yn gwneud y gwaith eu hunain. Dyna fydd y drefn gyda gwaith y Lefiaid.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity