Yn ôl

Obadeia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

OBADEIA 1

1 Gweledigaeth Obadeia.

Dyma beth mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, wedi'i ddweud am Edom. Ref Cawson ni neges gan yr ARGLWYDD, pan gafodd negesydd ei anfon i'r gwledydd, yn dweud, “Codwch! Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!”

Bydd Duw yn cosbi EdomCroes

2 Mae'r ARGLWYDD yn dweud wrth Edom: Ref

“Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan;

byddan nhw'n cael cymaint o hwyl ar dy ben.

3 Mae dy falchder wedi dy dwyllo di!

Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig,

ac mae dy gartref mor uchel nes dy fod yn meddwl,

‘Fydd neb yn gallu fy nhynnu i lawr o'r fan yma!’ Ref

4 Ond hyd yn oed petaet ti'n gallu codi mor uchel â'r eryr,

a gosod dy nyth yng nghanol y sêr,

bydda i'n dy dynnu di i lawr!”Croes

—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

5 “Petai lladron yn dod atat ti,

neu ysbeilwyr yn y nos,

fydden nhw ond yn dwyn beth roedden nhw eisiau!

Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti,

oni fydden nhw'n gadael rhywbeth i'w loffa?Croes

Ond byddi di'n cael dy ddinistrio'n llwyr!

6 Bydd pobl Esau Ref yn colli popeth;

bydd y trysorau gasglon nhw wedi'u dwyn!

7 Mae dy gynghrheiriaid wedi dy dwyllo;

cei dy yrru at dy ffiniau.

Mae dy ‛helpwyr‛ wedi cael y llaw uchaf arnat ti,

a'r ‛ffrindiau‛ oedd yn gwledda gyda ti

wedi gosod trap heb i ti wybod.”

8 “Bryd hynny” meddai'r ARGLWYDD,

“bydda i'n difa rhai doeth Edom,

a bydd y deallus yn diflannu o fynydd Esau.

9 Bydd dy filwyr dewr wedi dychryn, Teman; Ref

fydd neb yn goroesi ar fynydd Esau.

Y drwg wnaeth Edom

O achos y lladdfa,

10 a'th drais yn erbyn Jacob dy frawd, Ref

bydd cywilydd yn dy orchuddio,

a byddi'n cael dy ddinistrio am byth.

11 Pan oeddet ti'n sefyll o'r neilltu

tra oedd dieithriaid yn dwyn ei heiddo;

pan oedd byddin estron yn mynd drwy ei giatiau

a gamblo am gyfoeth Jerwsalem,

doeddet ti ddim gwell nag un ohonyn nhw! Ref

12 Sut allet ti syllu a mwynhau'r

drychineb ddaeth i ran dy frawd?

Sut allet ti ddathlu wrth weld pobl Jwda

ar ddiwrnod eu difa?Croes

Sut allet ti chwerthin

ar ddiwrnod y dioddef?

13 Sut allet ti fynd at giatiau fy mhobl

ar ddiwrnod eu trychineb?

Syllu a mwynhau eu trallod

ar ddiwrnod eu trychineb.

Sut allet ti ddwyn eu heiddo

ar ddiwrnod eu trychineb?

14 Sut allet ti sefyll ar y groesffordd

ac ymosod ar y ffoaduriaid!

Sut allet ti eu rhoi yn llaw'r gelyn

ar ddiwrnod y dioddef?

Barn Duw a buddugoliaeth Israel

15 Ydy, mae diwrnod yr ARGLWYDD yn agos,

a bydda i'n barnu'r cenhedloedd i gyd.

Byddi'n diodde beth wnest ti i eraill;Croes

cei dy dalu'n ôl am beth gafodd ei wneud.

16 Fel y gwnaethoch chi yfed

ar y mynydd sydd wedi'i gysegru i mi,

bydd y gwledydd i gyd yn yfed ac yfed –

yfed nes byddan nhw'n chwil.Croes

Bydd fel petaen nhw erioed wedi bodoli.

17 Ond ar Fynydd Seion bydd rhai yn dianc

– bydd yn lle cysegredig eto.

Bydd teulu Jacob yn ennill y tir yn ôl

oddi ar y rhai wnaeth ei gymryd oddi arnyn nhw.

18 Teulu Jacob Ref fydd y tân,

a theulu Joseff Ref fydd y fflamau,

a theulu Esau fydd y bonion gwellt!

Byddan nhw'n eu llosgi a'u difa,

a fydd neb o deulu Esau ar ôl.”

—mae'r ARGLWYDD wedi dweud.

19 Byddan nhw'n cipio'r Negef oddi ar bobl mynydd Esau,

a Seffela Ref oddi ar y Philistiaid.

Byddan nhw'n ennill yn ôl dir Effraim

a'r ardal o gwmpas Samaria,

a bydd pobl Benjamin yn meddiannu Gilead. Ref

20 Bydd byddin o bobl Israel o'r gaethglud

yn adennill tir Canaan i fyny at Sareffath; Ref

a phobl Jerwsalem sydd yn Seffarad bell

yn meddiannu pentrefi'r Negef.

21 Bydd y rhai gafodd eu hachub

yn mynd i Fynydd Seion

ac yn rheoli Edom –

a'r ARGLWYDD fydd yn teyrnasu.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity