Yn ôl

Diarhebion

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

DIARHEBION 10

Diarhebion Solomon – Y Casgliad cyntaf

1 Diarhebion Solomon:

Mae plentyn doeth yn gwneud ei dad yn hapus;

ond mae plentyn ffôl yn gwneud ei fam yn drist.

2 Dydy ennill ffortiwn drwy dwyll o ddim lles,

ond mae gonestrwydd yn achub bywyd o berygl marwol.

3 Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gadael i rywun cyfiawn lwgu,

ond mae'n rhwystro'r rhai drwg rhag cael beth maen nhw eisiau.

4 Mae diogi yn arwain i dlodi,

ond gwaith caled yn ennill cyfoeth.

5 Mae'r un sy'n casglu ei gnwd yn yr haf yn gall,

ond yr un sy'n cysgu drwy'r cynhaeaf yn achosi cywilydd.

6 Mae cawodydd o fendith yn disgyn ar y cyfiawn,

ond mae geiriau pobl ddrwg yn cuddio creulondeb.

7 Mae'n fendith cofio am rywun cyfiawn,

ond bydd enw'r drwg yn pydru.

8 Mae'r un sy'n ddoeth yn derbyn cyngor,

ond mae'r ffŵl sy'n siarad dwli yn syrthio.

9 Mae'r un sy'n byw yn onest yn byw'n ddibryder,

ond bydd y gwir yn dod i'r golwg am yr un sy'n twyllo.

10 Mae'r un sy'n wincio o hyd yn creu helynt,Croes

ond mae'r sawl sy'n ceryddu'n agored yn dod â heddwch. Ref

11 Mae geiriau person cyfiawn yn ffynnon sy'n rhoi bywyd,

ond mae geiriau pobl ddrwg yn cuddio creulondeb.

12 Mae casineb yn codi twrw,

ond mae cariad yn cuddio pob bai.

13 Mae pobl gall yn siarad yn ddoeth,

ond gwialen sydd ei hangen ar rai sydd heb synnwyr cyffredin.

14 Mae pobl ddoeth yn storio gwybodaeth,

ond mae siarad dwl yn dod â dinistr yn agos.

15 Mae holl eiddo'r cyfoethog fel caer ddiogel,

ond tlodi'r tlawd yn ddinistr.

16 Gwobr y person sy'n byw'n iawn ydy bywyd,

ond cosb am bechod ydy cyflog pobl ddrwg.

17 Mae derbyn cyngor yn arwain i fywyd,

ond gwrthod gwrando ar gerydd yn arwain ar gyfeiliorn.

18 Mae'r un sy'n cuddio casineb yn twyllo,

a'r sawl sy'n enllibio pobl eraill yn ffŵl.

19 Mae siarad gormod yn siŵr o dramgwyddo rhywun;

mae'r person call yn brathu ei dafod.

20 Mae geiriau person da fel arian gwerthfawr,

ond dydy syniadau pobl ddrwg yn dda i ddim.

21 Mae cyngor person da yn fwyd i gynnal pobl,

ond mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr cyffredin.

22 Bendith yr ARGLWYDD sy'n cyfoethogi bywyd,

dydy ymdrech ddynol yn ychwanegu dim ato.

23 Mae ffŵl yn cael sbort wrth wneud drygau,

ond doethineb sy'n rhoi mwynhad i bobl gall.

24 Bydd yr hyn mae pobl ddrwg yn ei ofni yn digwydd iddyn nhw;

ond bydd rhai sy'n byw'n iawn yn cael beth maen nhw eisiau.

25 Fydd dim sôn am bobl ddrwg pan fydd y corwynt wedi mynd heibio,

ond mae sylfeini'r rhai sy'n byw'n iawn yn aros yn gadarn.

26 Mae anfon rhywun diog ar neges

fel yfed finegr neu gael mwg yn eich llygaid.

27 Mae parchu'r ARGLWYDD yn rhoi bywyd hir i chi,

ond mae blynyddoedd y rhai drwg yn cael eu byrhau.

28 Gall y cyfiawn edrych ymlaen at lawenydd,

ond does gan bobl ddrwg ddim gobaith.

29 Mae'r ARGLWYDD yn gaer i amddiffyn y rhai sy'n byw yn iawn,

ond bydd pobl ddrwg yn cael eu dinistrio.

30 Fydd y cyfiawn byth yn cael ei symud,

ond fydd y rhai drwg ddim yn cael byw yn y tir.

31 Mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn siarad yn gall,

ond bydd y rhai sy'n twyllo yn cael eu tewi.

32 Mae'r cyfiawn yn gwybod beth sy'n iawn i'w ddweud;

ond mae pobl ddrwg yn twyllo.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity