|
|
Pennod 15
1 Mae ateb caredig yn tawelu tymer;
ond dweud pethau cas yn gwylltio pobl.
2 Mae geiriau person doeth yn hybu gwybodaeth,
ond mae cegau ffyliaid yn chwydu ffolineb.
3 Mae'r ARGLWYDD yn gweld popeth,
mae'n gwylio'r drwg a'r da.
4 Mae gair caredig fel coeden sy'n rhoi bywyd,
ond mae dweud celwydd yn anafu.
5 Mae'r ffŵl yn diystyru disgyblaeth ei dad,
ond mae'r sawl sy'n gwrando ar gerydd yn gall.
6 Mae digon o gyfoeth yn nhŷ person cyfiawn,
ond trafferthion fydd unig gyflog pobl ddrwg.
7 Mae pobl ddoeth yn rhannu gwybodaeth;
ond dydy ffyliaid ddim yn gwneud hynny.
8 Mae'n gas gan yr ARGLWYDD offrymau pobl ddrwg,
ond mae gweddi'r rhai sy'n byw yn iawn yn ei blesio.
9 Mae'n gas gan yr ARGLWYDD ymddygiad pobl ddrwg,
ond mae'n caru'r rhai sy'n ymdrechu i fyw'n iawn.
10 Mae'r un sydd wedi troi cefn ar y ffordd yn cael ei ddisgyblu'n llym;
bydd yr un sy'n gwrthod cael ei gywiro yn marw.
11 Mae'r ARGLWYDD yn gweld beth sy'n digwydd yn Annwfn Ref ,
felly mae'n sicr yn gwybod beth sy'n mynd trwy feddyliau pobl!
12 Dydy'r un sy'n gwawdio pobl eraill ddim yn hoffi cael ei gywiro;
dydy e ddim yn fodlon gofyn cyngor gan rywun doeth.
13 Mae calon lawen yn rhoi gwên ar yr wyneb;
ond mae calon drist yn llethu'r ysbryd.
14 Mae person call eisiau dysgu mwy;
ond mae ffŵl yn cael ei fwydo ar ffolineb.
15 Mae pobl sy'n diodde yn cael bywyd caled,
ond mae bodlonrwydd fel gwledd ddiddiwedd.
16 Mae ychydig bach gan rywun sy'n parchu'r ARGLWYDD
yn well na chyfoeth mawr gyda helbulon.
17 Mae platiad o lysiau ble mae cariad
yn well na gwledd o gig eidion â chasineb.
18 Mae rhywun sy'n fyr ei dymer yn creu helynt;
ond mae person amyneddgar yn tawelu ffrae.
19 Mae'r ffordd mae person diog yn ymddwyn fel llwyn o fieri,
ond mae llwybr yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn fel priffordd agored.
20 Mae plentyn doeth yn gwneud ei dad yn hapus;
ond plentyn ffôl yn codi cywilydd ar ei fam.
21 Mae chwarae'r ffŵl yn hwyl i rywun heb sens;
ond mae person call yn gwneud beth sy'n iawn.
22 Mae cynlluniau'n mynd ar chwâl heb ymgynghori,
ond yn llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor.
23 Mae ateb parod yn gwneud rhywun yn hapus,
ac mor dda ydy gair yn ei bryd!
24 Mae llwybr bywyd ar i fyny i'r doeth,
ac yn ei droi oddi wrth Sheol isod.
25 Bydd yr ARGLWYDD yn chwalu tŷ y balch,
ond mae'n gwneud ffiniau'r weddw yn ddiogel.
26 Mae'n gas gan yr ARGLWYDD feddyliau drwg,
ond mae geiriau caredig yn bur yn ei olwg.
27 Mae rhywun sy'n elwa ar draul eraill yn creu trwbwl i'w deulu;
ond bydd yr un sy'n gwrthod cil-dwrn yn cael byw yn hir.
28 Mae'r person cyfiawn yn meddwl cyn ateb,
tra mae'r person drwg yn chwydu aflendid.
29 Mae'r ARGLWYDD yn cadw draw oddi wrth bobl ddrwg,
ond mae'n gwrando ar weddi'r rhai sy'n byw'n gywir.
30 Mae gwên yn llonni'r galon;
a newyddion da yn rhoi cryfder i'r corff.
31 Mae'r glust sy'n gwrando ar gerydd buddiol
yn byw yng nghwmni'r doeth.
32 Mae'r un sy'n gwrthod cael ei gywiro yn ei gasáu ei hun;
ond yr un sy'n gwrando ar gerydd yn dangos synnwyr.
33 Mae parchu'r ARGLWYDD yn dysgu doethineb;
a gostyngeiddrwydd yn dod o flaen anrhydedd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity