|
|
1 Mae crystyn sych a thipyn o heddwch
yn well na gwledd fawr lle mae pobl yn ffraeo.
2 Bydd gwas da yn rheoli mab sy'n achos cywilydd,
a bydd yn rhannu'r etifeddiaeth fel un o'r teulu.
3 Tawddlestr i arian, a ffwrnais i aur,
ond yr
ARGLWYDD sy'n profi'r galon.4 Mae'r rhai sy'n gwneud drwg yn gwrando ar gyngor drwg;
a'r un sy'n dweud celwydd yn rhoi sylw i eiriau maleisus.
5 Mae'r sawl sy'n chwerthin ar y tlawd yn amharchu ei Grëwr;
a bydd yr un sy'n mwynhau gweld trychineb yn cael ei gosbi.
6 Coron pobl mewn oed ydy eu hwyrion a'u hwyresau,
a balchder plant ydy eu rhieni.
7 Dydy geiriau gwych ddim yn gweddu i ffŵl;
llai fyth celwydd i ŵr bonheddig.
8 Mae breib fel swyn i'r un sy'n ei gynnig;
lle bynnag mae'n troi, mae'n llwyddo.
9 Mae'r sawl sy'n cuddio bai yn ceisio cyfeillgarwch,
ond yr un sy'n hel clecs yn colli ffrindiau.
10 Mae gair o gerydd yn gwneud mwy o argraff ar ddyn doeth
na chwipio ffŵl gant o weithiau.
11 Dydy rhywun drwg ddim ond eisiau gwrthryfela;
felly bydd swyddog creulon yn cael ei anfon yn ei erbyn.
12 Gwell cyfarfod arthes wedi colli ei chenawon
na ffŵl yn siarad nonsens.
13 Fydd trafferthion byth yn gadael tŷ
rhywun sy'n talu drwg am dda.
14 Mae dechrau ffrae fel crac mewn argae;
gwell tewi cyn i bethau fynd yn draed moch.
ARGLWYDD –gollwng yr euog yn rhydd a chosbi'r dieuog.
16 Wnaiff arian yn llaw ffŵl ddim prynu doethineb.
Pam talu am wersi, ac yntau ddim eisiau deall?
17 Mae ffrind yn ffyddlon bob amser;
a brawd wedi'i eni i helpu mewn helbul.
sy'n cytuno i dalu dyled rhywun arall.Croes
19 Mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi trafferthion,
a'r un sy'n brolio yn gofyn am drwbwl.
20 Fydd yr un sy'n twyllo ddim yn llwyddo;
mae'r rhai sy'n edrych am helynt yn mynd i drafferthion.
21 Mae'r un sy'n magu plentyn ffôl yn profi tristwch;
does dim mwynhad i dad plentyn gwirion.
22 Mae llawenydd yn iechyd i'r corff;
ond mae iselder ysbryd yn sychu'r esgyrn.
23 Person drwg sy'n derbyn breib yn dawel bach
i wyrdroi cyfiawnder.Croes
24 Mae'r person craff yn gweld yn glir beth sy'n ddoeth,
ond dydy'r ffŵl ddim yn gwybod ble i edrych.
25 Mae plentyn ffôl yn achosi gofid i'w dad
a dolur calon i'w fam.
26 Dydy cosbi rhywun dieuog ddim yn iawn;
byddai fel rhoi curfa i swyddog llys am fod yn onest.
27 Mae'r un sy'n brathu ei dafod yn dangos synnwyr cyffredin,
a'r person pwyllog yn dangos ei fod yn gall.
28 Gall hyd yn oed ffŵl sy'n cadw'n dawel gael ei ystyried yn ddoeth,
a'r un sy'n cau ei geg, yn ddeallus.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity