Yn ôl

Diarhebion

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

DIARHEBION 18

1 Mae'r un sy'n cadw ar wahân yn plesio ei hun,

ac yn gwrthod unrhyw gyngor doeth.

2 Does gan ffŵl ddim awydd o gwbl i ddeall,

dim ond lleisio'i farn ei hun.

3 Mae dirmyg yn dilyn y drwg,

a gwawdio yn dilyn gwarth.

4 Mae geiriau rhywun fel dŵr dwfn –

ffynnon o ddoethineb fel nant yn llifo.

5 Dydy dangos ffafr at yr euog ddim yn beth da,

na gwrthod cyfiawnder i'r dieuog.

6 Mae geiriau ffŵl yn achosi ffrae;

mae'n gofyn am drwbwl!

7 Mae siarad ffŵl yn arwain i ddinistr;

mae'n cael ei rwydo gan ei eiriau ei hun.

8 Mae gwrando ar glecs fel bwyd blasus –

mae'r cwbl yn cael ei lyncu.

9 Mae'r un sy'n ddiog yn ei waith

yn perthyn yn agos i'r fandal.

10 Mae enw'r ARGLWYDD fel tŵr solet;

mae'r rhai sy'n byw'n iawn yn rhedeg ato i fod yn saff.

11 Ond caer ddiogel y cyfoethog ydy ei gyfoeth;

mae'n dychmygu ei fod yn wal uchel i'w amddiffyn.

12 Cyn i'r chwalfa ddod roedd digon o frolio;

gostyngeiddrwydd sy'n arwain i anrhydedd.

13 Mae ateb rhywun yn ôl cyn gwrando arno

yn beth dwl i'w wneud, ac yn dangos diffyg parch.

14 Gall ysbryd rhywun ei gynnal drwy afiechyd;

ond mae iselder ysbryd yn faich trwm i'w gario.

15 Mae'r person call am ddysgu mwy,

ac mae'r doeth yn chwilio am wybodaeth.

16 Mae rhoi rhodd i rywun yn agor drysau

i gyfarfod pobl bwysig.

17 Mae'r cyntaf i gyflwyno ei dystiolaeth yn ymddangos yn iawn

nes i rywun ddod a'i groesholi.

18 Mae taflu coelbren yn rhoi terfyn ar ffraeo,

ac yn setlo dadl ffyrnig.

19 Mae perthynas wedi digio yn ystyfnig fel caer;

a chwerylon fel barrau i gloi giatiau castell.

20 Rhaid i rywun ddysgu byw gyda'i eiriau;

mae dweud y peth iawn yn rhoi boddhad.

21 Mae'r tafod yn gallu rhoi bywyd a marwolaeth;

ac mae'r rhai sy'n hoffi siarad yn gorfod byw gyda'u geiriau.

22 Mae'r dyn sydd wedi ffeindio gwraig yn hapus;

mae'r ARGLWYDD wedi bod yn dda ato.

23 Mae'r person tlawd yn pledio am help,

ond mae'r cyfoethog yn ei ateb yn swta.

24 Mae rhai ffrindiau'n gallu brifo rhywun,

ond mae ffrind go iawn yn fwy ffyddlon na brawd.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity