|
|
1 Fy mab, os byddi di'n derbyn beth dw i'n ddweud,
ac yn trysori'r hyn dw i'n ei orchymyn;
2 os gwnei di wrando'n astud ar ddoethineb,
a cheisio deall yn iawn;
3 os byddi di'n gofyn am gyngor doeth,
ac yn awyddus i ddeall yn iawn;
4 os byddi'n ceisio doethineb fel arian
ac yn chwilio amdani fel am drysor wedi'i guddio,
5 yna byddi di'n deall sut i barchu'r
ARGLWYDDa byddi'n dod i wybod am Dduw.
ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb;beth mae e'n ddweud sy'n rhoi gwybodaeth a deall.
7 Mae'n rhoi llwyddiant i'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn –
ac mae fel tarian i amddiffyn y sawl sy'n byw yn onest.
8 Mae'n gwneud yn siŵr fod cyfiawnder yn llwyddo,
ac mae'n gwarchod y rhai sy'n ffyddlon iddo.
9 Byddi'n deall beth sy'n iawn, yn gytbwys, ac yn deg
– ie, popeth sy'n dda.
10 Pan fydd doethineb yn rheoli dy ffordd o feddwl
a gwybod beth sydd orau yn dy gofleidio di,
11 bydd y ffordd wnei di ei dilyn yn saff,
a bydd deall yn dy warchod.
12 Bydd yn dy gadw di rhag dilyn y drwg,
a rhag y bobl hynny sy'n twyllo o hyd –
13 y rhai sydd wedi troi cefn ar ffyrdd gonest
i ddilyn llwybrau tywyll.
14 Maen nhw wrth eu boddau'n gwneud drwg
ac yn mwynhau twyllo –
ac maen nhw'n dilyn ffyrdd troellog.
16 Bydd yn dy achub di rhag y wraig anfoesol,
yr un lac ei moesau sy'n fflyrtian drwy'r adeg,
17 yr un sydd wedi gadael ei gŵr,
a diystyru'r addewidion wnaeth hi o flaen Duw.
18 Mae ei thŷ hi yn llwybr llithrig i farwolaeth;
mae ei dilyn hi yn arwain i fyd y meirw. Ref
19 Does neb sy'n mynd ati hi'n gallu troi yn ôl,
a chael eu hunain ar lwybr bywyd unwaith eto.
20 Dilyn di ffordd y rhai sy'n byw yn dda,
cadw at lwybrau'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.
21 Y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn fydd yn byw yn y tir,
y rhai sy'n byw'n onest fydd yn cael aros yno.
22 Bydd pobl ddrwg yn cael eu gyrru i ffwrdd,
a'r rhai sy'n twyllo yn cael eu rhwygo o'r tir.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity