|
|
Pennod 20
1 Mae gwin yn gwawdio, a cwrw yn creu helynt;
dydy'r rhai sy'n meddwi ddim yn ddoeth.
2 Mae brenin sy'n bygwth fel llew yn rhuo;
mae'r sawl sy'n ei wylltio yn mentro'i fywyd.
3 Mae gwrthod ffraeo yn beth call i'w wneud,
gall unrhyw ffŵl godi helynt.
4 Os nad ydy'r dyn diog yn aredig yn y gwanwyn,
pan ddaw'r cynhaeaf, fydd e'n cael dim byd.
5 Mae bwriad y meddwl dynol fel dŵr dwfn,
ond gall person deallus ei ddwyn i'r golwg.
6 Mae llawer o bobl yn honni bod yn ffrindiau triw,
ond pwy allwch chi ei drystio go iawn?
7 Pan mae rhywun yn byw bywyd cyfiawn a gonest,
mae ei blant wedi eu bendithio'n fawr.
8 Mae brenin sy'n eistedd ar yr orsedd i farnu
yn gallu gwahaniaethu rhwng drwg a da.
9 Oes unrhyw un yn gallu dweud,
“Dw i wedi cadw fy nghalon yn lân;
dw i'n hollol lân a heb bechod”?
10 Mae twyllo wrth bwyso a mesur
yn rywbeth sy'n gas gan yr
ARGLWYDD.11 Mae'r ffordd mae person ifanc yn ymddwyn
yn dangos ydy e'n onest ai peidio.
12 Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld —
yr
ARGLWYDD wnaeth y ddwy.13 Paid bod yn rhy hoff o dy gwsg, rhag i ti fynd yn dlawd;
cadw'n effro, a bydd gen ti ddigon i'w fwyta.
14 “Dydy e ddim yn werth rhyw lawer,” meddai'r prynwr,
ond mae'n mynd i ffwrdd ac yn brolio'i hun am gael bargen.
15 Mae digonedd o aur i'w gael, a pherlau hefyd;
mae geiriau doeth yn beth llawer mwy prin.
16 Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun arall;
cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros wraig ddieithr.
17 Falle fod bwyd sydd wedi ei ddwyn yn flasus,
ond bydd dy geg yn llawn graean yn y diwedd.
18 Mae cyngor da yn gwneud i gynlluniau lwyddo;
ewch i ryfel gyda strategaeth glir.
19 Mae'r un sy'n hel clecs yn methu cadw cyfrinach;
paid cael dim i'w wneud â'r llac ei dafod.
20 Os ydy rhywun yn melltithio ei dad neu ei fam,
bydd ei lamp yn diffodd mewn tywyllwch dudew.
21 Pan mae rhywun yn derbyn etifeddiaeth yn rhy hawdd,
fydd dim bendith yn y diwedd.
22 Paid dweud, “Bydda i'n talu'r pwyth yn ôl!”
Disgwyl i'r
ARGLWYDD achub dy gam di.23 Mae twyllo yn gas gan yr ARGLWYDD;
dydy clorian dwyllodrus ddim yn beth da.
24 Yr ARGLWYDD sy'n trefnu'r ffordd mae rhywun yn mynd;
sut all unrhyw un wybod beth sydd o'i flaen?
25 Mae'n gamgymeriad i rywun gyflwyno rhodd i Dduw yn fyrbwyll,
a dim ond meddwl wedyn beth wnaeth e addo ei wneud.
26 Mae brenin doeth yn gwahanu'r drwg oddi wrth y da,
ac yna'n troi'r olwyn sy'n eu dyrnu nhw.
27 Mae'r gydwybod fel lamp gan yr ARGLWYDD,
yn chwilio'n ddwfn beth sydd yn y galon.
28 Cariad a ffyddlondeb Duw sy'n amddiffyn y brenin;
a'i gariad e sy'n ei gadw ar yr orsedd.
29 Mae pobl yn edmygu cryfder dynion ifanc,
ond gwallt gwyn sy'n rhoi urddas i bobl mewn oed.
30 Mae dioddefaint a chleisiau yn cael gwared â drwg,
ac yn delio hefo'r person y tu mewn.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity