|
|
Pennod 23
1 Pan wyt ti'n eistedd i lawr i fwyta gyda llywodraethwr,
gwylia'n ofalus sut wyt ti'n ymddwyn;
2 dal yn ôl, paid llowcio dy fwyd.
3 Paid stwffio dy hun ar ei ddanteithion,
mae'n siŵr ei fod e eisiau rhywbeth gen ti!
4 Paid lladd dy hun yn ceisio gwneud arian;
bydd yn ddigon call i ymatal.
5 Cyn i ti droi rownd mae e wedi mynd!
Mae'n magu adenydd ac yn hedfan i ffwrdd fel eryr.
6 Paid bwyta wrth fwrdd person cybyddlyd;
paid stwffio dy hun ar ei ddanteiddion.
7 Mae e'n cadw cyfri o bopeth wyt ti'n ei fwyta!
Mae'n dweud, “Tyrd, bwyta ac yfed faint fynni di,”
ond dydy e ddim yn meddwl y peth go iawn.
8 Byddi'n chwydu'r ychydig wyt ti wedi ei fwyta,
ac wedi gwastraffu dy eiriau caredig.
9 Paid dweud gormod wrth ffŵl,
fydd e'n gwneud dim ond gwawdio dy eiriau doeth di.
10 Paid symud yr hen ffiniau,
a dwyn tir oddi ar yr amddifad;
11 mae'r Un sy'n eu hamddiffyn nhw yn gryf,
a bydd yn cymryd eu hachos yn dy erbyn di.
12 Penderfyna dy fod am ddysgu
a gwrando ar eiriau doeth.
13 Paid bod ofn disgyblu dy blentyn;
dydy gwialen ddim yn mynd i'w ladd e.
14 Defnyddia'r wialen
a byddi'n achub ei fywyd.
15 Fy mab, os dysgi di fod yn ddoeth,
bydda i'n hapus iawn.
16 Bydda i wrth fy modd
yn dy glywed di'n dweud beth sy'n iawn.
17 Paid cenfigennu wrth y rhai sy'n pechu —
bydd di'n ffyddlon i Dduw bob amser.
18 Wedyn bydd pethau'n iawn yn y diwedd,
a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi.
19 Gwrando, fy mab, a bydd ddoeth;
penderfyna ddilyn y ffordd iawn.
20 Paid cael gormod i'w wneud gyda'r rhai sy'n goryfed,
ac yn stwffio eu hunain hefo bwyd.
21 Bydd y rhai sy'n meddwi a gorfwyta yn mynd yn dlawd;
fydd gynnon nhw ddim egni, a byddan nhw mewn carpiau.
22 Gwrando ar dy dad, ddaeth â ti i'r byd;
a paid diystyru dy fam pan fydd hi'n hen.
23 Gafael yn y gwirionedd, a paid â'i ollwng,
doethineb hefyd, a disgyblaeth a deall!
24 Os ydy plentyn yn gwneud beth sy'n iawn
bydd ei dad mor hapus;
mae plentyn doeth yn rhoi'r fath bleser i'w rieni.
25 Bydd dy dad a dy fam wrth eu boddau;
gwna'r un ddaeth â ti i'r byd yn hapus!
26 Dw i eisiau dy sylw di, fy mab;
gwylia'n ofalus, a dysga gen i.
27 Mae putain fel pwll dwfn;
a gwraig anfoesol fel pydew cul.
28 Mae hi'n disgwyl amdanat ti fel lleidr;
ac yn gwneud mwy a mwy o ddynion yn anffyddlon i'w gwragedd.
29 Pwy sy'n teimlo'n wael ac yn druenus?
Pwy sy'n ffraeo ac yn dadlau drwy'r adeg?
Pwy sy'n cael damweiniau diangen?
Pwy sydd â llygaid cochion?
30 Y rhai sy'n yfed i'r oriau mân,
ac yn trio rhyw ddiod newydd o hyd.
31 Paid llygadu'r gwin coch yna
sy'n edrych mor ddeniadol yn y gwydr
ac yn mynd i lawr mor dda.
32 Bydd yn dy frathu fel neidr yn y diwedd;
bydd fel brathiad gwiber.
33 Byddi'n gweld pethau rhyfedd,
a bydd dy feddwl wedi drysu'n lân.
34 Bydd fel mynd i dy wely mewn storm ar y môr,
neu geisio gorwedd i gysgu ar ben yr hwylbren.
35 “Ces fy nharo, ond wnes i deimlo dim byd;
Ces fy nghuro, ond dw i'n cofio dim am y peth.
Pryd dw i'n mynd i sobri?
— dw i angen diod arall.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity