Yn ôl

Diarhebion

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pennod 24

1 Paid cenfigennu wrth bobl ddrwg,

na bod eisiau cadw cwmni iddyn nhw.

2 Dyn nhw'n meddwl am ddim byd ond trais

a sut i wneud drwg i bobl eraill.

3 Mae'n cymryd gallu i adeiladu tŷ,

a deall i osod seiliau cadarn iddo.

4 Mae angen gwybodaeth i lenwi'r ystafelloedd

gyda phob math o bethau gwerthfawr a hardd.

5 Mae person doeth yn gry,

a person deallus yn ddylanwadol.

6 Mae angen strategaeth i ymladd brwydr,

a chyngor doeth i ennill buddugoliaeth.

7 Mae doethineb allan o gyrraedd y ffŵl;

does ganddo ddim i'w ddweud pan mae'r arweinwyr yn cyfarfod.

8 Mae'r sawl sy'n cynllunio i wneud drwg

yn cael yr enw o fod yn gyfrwys.

9 Mae castiau'r ffŵl yn bechod,

ac mae'n gas gan bobl berson sy'n gwawdio.

10 Os wyt ti'n un i golli hyder dan bwysau,

mae gen ti angen mwy o nerth.

11 Achub y rhai sy'n cael eu llusgo i ffwrdd i'w lladd!

Bydd barod i helpu'r rhai sy'n baglu i'r bedd.

12 Os byddi di'n dweud, “Ond doedden ni'n gwybod dim am y peth,”

cofia fod yr Un sy'n pwyso'r galon yn gweld y gwir!

Mae Duw yn dy wylio di, ac mae e'n gwybod;

a bydd pawb yn cael beth maen nhw'n ei haeddu.

13 Fy mab, bwyta fêl — mae'n dda i ti;

ac mae diliau mêl yn felys yn dy geg.

14 A'r un modd mae doethineb yn dda i ti.

Os wyt ti'n ddoeth, byddi'n iawn yn y diwedd;

a bydd gen ti obaith fydd byth yn dy siomi.

15 Paid loetran fel lleidr tu allan i gartre dyn da;

a paid torri i mewn i'w dŷ.

16 Gelli faglu pobl dda dro ar ôl tro,

ond byddan nhw'n codi ar eu traed;

tra mae un anffawd yn ddigon i fwrw pobl ddrwg i lawr.

17 Paid dathlu pan mae dy elyn yn syrthio;

paid bod yn falch os ydy e'n cael ei fwrw i lawr,

18 rhag i'r ARGLWYDD weld y peth, a bod yn flin hefo ti;

wedyn bydd e'n arbed y gelyn rhag y gosb.

19 Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo;

paid bod yn genfigennus ohonyn nhw —

20 does dim dyfodol iddyn nhw.

Mae'r person drwg fel lamp sy'n diffodd.

21 Fy mab, dylet ti barchu'r ARGLWYDD a'r brenin,

a pheidio cadw cwmni'r rhai sy'n gwrthryfela.

22 Yn sydyn bydd dinistr yn dod arnyn nhw;

pwy ŵyr faint o ddrwg allan nhw ei achosi?

Casgliad o ddywediadau doeth

23 Dyma fwy o eiriau'r doethion:

Dydy dangos ffafriaeth wrth farnu ddim yn beth da.

24 Bydd y sawl sy'n gollwng yr euog yn rhydd

yn cael ei felltithio gan bobl,

a'i gondemnio gan wledydd;

25 Ond bydd bywyd yn braf i'r un sy'n barnu'n deg;

bydd e'n cael ei fendithio'n fawr.

26 Mae rhoi ateb gonest

fel cusan ar y gwefusau.

27 Rho drefn ar dy waith tu allan,

a chael y caeau'n barod i'w plannu,

ac wedyn mynd ati i adeiladu dy dŷ.

28 Paid rhoi tystiolaeth yn erbyn rhywun heb achos da;

a paid camarwain pobl.

29 Paid dweud, “Dw i'n mynd i dalu'r pwyth yn ôl!

Bydda i'n dial arno am beth wnaeth e.”

30 Roeddwn i'n pasio heibio cae y dyn diog,

a gwinllan un sydd heb sens;

31 Roedd drain wedi tyfu drosto,

a chwyn ym mhobman,

a'r wal gerrig o'i gwmpas wedi syrthio.

32 Wrth edrych a meddwl am y peth,

roedd beth welais i yn dysgu gwers i mi:

33 “Ychydig bach mwy o gwsg;

pum munud arall!

Swatio'n gyfforddus yn y gwely am ychydig.”

34 Ond bydd tlodi yn dy daro di fel lleidr creulon;

bydd prinder yn ymosod arnat ti fel milwr arfog.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity