Yn ôl

Diarhebion

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pennod 25

Diarhebion Solomon — Casgliad Heseceia

1 Diarhebion Solomon ydy'r rhain hefyd, wedi eu casglu gan weision Heseceia, brenin Jwda:

2 Braint Duw ydy cadw pethau'n ddirgelwch;

braint brenhinoedd ydy chwilio a darganfod.

3 Fel mae'r awyr yn rhy uchel, a'r ddaear yn rhy ddofn,

does neb yn gwybod beth sy'n mynd trwy feddwl brenhinoedd.

4 Ar ôl gwahanu'r amhuredd o'r arian,

mae'r gof yn gallu creu llestr hardd.

5 Ar ôl symud y rhai drwg o ŵydd y brenin,

bydd cyfiawnder yn gwneud ei orsedd yn ddiogel.

6 Paid canmol dy hun o flaen y brenin,

a mynd i eistedd yn y seddi pwysig.

7 Mae'n well cael rhywun yn dweud, “Symud i fyny,”

na chael dy gywilyddio o flaen pobl bwysig.

8 Paid bod ar ormod o frys i fynd i'r llys

am dy fod wedi gweld rhywbeth.

Beth os fydd rhywun arall yn dweud yn groes i ti?

9 Trafod y peth yn breifat gyda'r person hwnnw,

a paid dweud am y peth wrth neb arall.

10 Does gen ti ddim eisiau i rywun dy gondemnio di,

ac i ti gael enw drwg am byth.

11 Mae gair o ganmoliaeth

fel gemwaith aur mewn tlws arian.

12 Mae gwrando ar gerydd gan rywun doeth

fel modrwy aur, neu dlws o aur coeth.

13 Mae negesydd ffyddlon yn adfywio ysbryd ei feistri,

fel dŵr oer ar ddiwrnod poeth o gynhaeaf.

14 Cymylau a gwynt, ond dim glaw —

felly mae'r un sy'n brolio'i haelioni, ond byth yn rhoi.

15 Tipyn o amynedd a gellir perswadio llywodraethwr;

ac mae geiriau tyner yn delio gyda gwrthwynebiad.

16 Pan gei fêl, paid cymryd mwy nag wyt ei angen,

rhag i ti fwyta gormod, a chwydu'r cwbl i fyny.

17 Paid mynd i dŷ rhywun arall yn rhy aml,

rhag iddo gael llond bol, a throi yn dy erbyn di.

18 Mae tyst sy'n dweud celwydd mewn achos llys

yn gwneud niwed fel pastwn, neu gleddyf, neu saeth finiog.

19 Mae trystio rhywun sy'n ddi-ddal mewn amser anodd

fel diodde o'r ddannodd neu fod yn simsan ar eich traed.

20 Mae canu caneuon i rywun sydd â chalon drist

fel tynnu dillad ar ddiwrnod oer, neu roi halen ar friw.

21 Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo;

os ydy e'n sychedig, rho ddŵr iddo i'w yfed.

22 Byddi'n tywallt marwor tanllyd ar ei ben,

a bydd yr ARGLWYDD yn rhoi dy wobr i ti.

23 Mae gwynt y gogledd yn dod â glaw,

a thafod sy'n bradychu cyfrinach yn dod â gwg.

24 Mae byw mewn cornel ar do tŷ

yn well na rhannu cartref gyda gwaig gecrus.

25 Mae derbyn newyddion da o wlad bell

fel diod o ddŵr oer i wddf sych.

26 Mae dyn da sy'n plygu i ddyn drwg

fel ffynnon yn llawn mwd neu bydew wedi ei ddifetha.

27 Dydy bwyta gormod o fêl ddim yn beth da,

a dydy edrych am ganmoliaeth ddim yn iawn.

28 Mae rhywun sy'n methu rheoli ei dymer

fel dinas a'i waliau wedi eu bwrw i lawr.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity