|
|
Pennod 26
1 Fel eira yn yr haf a glaw adeg cynhaeaf,
dydy parch ddim yn siwtio ffŵl.
2 Fel aderyn y to yn gwibio heibio, neu wennol yn hedfan,
dydy melltith heb ei haeddu ddim yn gorffwys.
3 Chwip i geffyl a ffrwyn i asyn,
a gwialen i gefn ffyliaid.
4 Paid ateb ffŵl fel mae e'n siarad,
neu byddi di'n debyg iddo;
5 ateb ffŵl fel mae e'n siarad,
a bydd e'n meddwl ei fod e'n glyfar.
6 Mae anfon neges drwy law ffŵl
fel rhywun yn mwynhau gwneud niwed iddo'i hun.
7 Mae dihareb yn cael ei hadrodd gan ffŵl
fel coesau rhywyn cloff yn hongian yn llipa.
8 Does dim pwynt dangos parch at ffŵl;
mae fel rhwymo carreg yn y ffon dafl.
9 Mae dihareb yn cael ei hadrodd gan ffŵl,
fel draenen yn llaw meddwyn.
10 Mae'r un sy'n cyflogi ffŵl neu feddwyn
fel bwasaethwr yn anafu pawb sy'n mynd heibio.
11 Mae ffŵl sy'n ailadrodd beth wnaeth e,
fel ci yn mynd yn ôl at ei chŵd.
12 Mae mwy o obaith i ffŵl
nag i rywun sy'n meddwl ei fod yn gwybod popeth.
13 Mae'r diogyn yn dweud, “Mae na lew ar y ffordd!
Mae e'n rhydd yn y stryd!”
14 Mae diogyn yn troi ar ei wely
fel drws yn siglo'n ôl a blaen ar ei golfachau!
15 Mae'r diogyn yn estyn ei law am fwyd,
ond yn blino gorfod ei godi i'w geg.
16 Mae'r diogyn yn meddwl ei fod e'n gallach
na saith o bobl sy'n rhoi cyngor da.
17 Mae busnesa yn ffrae rhywun arall
fel gafael mewn ci peryglus wrth ei glustiau.
18,19 Mae twyllo rhywun arall ac wedyn dweud, “Dim ond jôc oedd e,”
fel dyn gwallgo yn taflu ffaglau tân a saethau marwol i bob cyfeiriad.
20 Mae tân yn diffodd os nad oes coed i'w llosgi,
ac mae ffrae yn tawelu os nad oes rhywun yn hel clecs.
21 Ond mae rhywun sy'n dechrau ffrae
fel rhoi glo ar farwor neu goed ar y tân.
22 Mae gwrando ar glecs fel bwyd blasus,
ond mae'n gwneud drwg i rywun.
23 Mae tafod sy'n rhy barod a bwriad sy'n ddrwg
fel farnis clir ar botyn pridd.
24 Mae gelyn yn smalio,
ond ei fwriad ydy twyllo;
25 paid â'i gredu pan mae'n dweud pethau caredig,
achos mae pob math o bethau ffiaidd ar ei feddwl.
26 Mae'n cuddio ei gasineb trwy dwyll,
ond bydd ei ddrygioni yn dod yn amlwg i bawb.
27 Mae rhywun yn gallu cloddio twll a syrthio i'w drap ei hun;
pan mae rhywun yn rholio carreg, gall rolio yn ôl drosto!
28 Mae tafod gelwyddog yn casáu y rhai mae'n ei herlid;
ac mae seboni yn arwain i ddinistr.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity