|
|
Pennod 27
1 Paid brolio am beth wnei di yfory,
dwyt ti ddim yn gwybod beth all ddigwydd mewn diwrnod.
2 Gad i rywun arall dy ganmol di,
paid ti â brolio dy hun.
3 Mae carreg yn drom, ac mae pwysau i dywod,
ond mae ffŵl sy'n pryfocio yn waeth na'r ddau.
4 Mae gwylltio yn greulon a cholli tymer yn llethu,
ond mae cenfigen yn waeth na'r ddau.
5 Mae cerydd gonest yn well na peidio dangos cariad.
6 Mae'n well cael eich brifo gan ffrind,
na chael eich cusanau'n ddibaid gan rywun sy'n eich casáu.
7 Mae rhywun sydd wedi cael digon i'w fwyta yn gwrthod mêl,
ond i'r sawl sy'n llwgu, mae'r peth mwyaf chwerw yn blasu'n felys.
8 Mae rhywun sydd wedi gadael ei gartre
fel aderyn wedi hedfan o'i nyth.
9 Mae olew a phersawr yn gwneud rhywun yn hapus,
ac mae cyngor ffrind yn gwneud bywyd yn braf.
10 Paid troi cefn ar ffrind neu un o ffrindiau'r teulu;
a fydd dim rhaid i ti redeg i dy perthynas pan fyddi mewn trafferthion.
Mae ffrind sy'n agos yn well na pherthynas pell.
11 Bydd ddoeth, fy mab, a gwna fi'n hapus,
er mwyn i mi fedru ateb y rhai sy'n gwneud sbort ar fy mhen.
12 Mae'r person call yn gweld perygl ac yn ei osgoi;
ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu'r pris.
13 Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun arall;
cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros wraig ddieithr.
14 Mae gweiddi'n uchel wrth gyfarch ffrind yn gynnar yn y bore
yn gallu bod yn fwy o felltith na dim arall.
15 Mae gwraig gecrus yr un fath â
diwrnod pan mae hi'n glawio'n ddi-stop;
16 mae rhoi taw arni fel ceisio stopio'r gwynt rhag chwythu,
neu ddal olew yn y llaw.
17 Fel haearn yn hogi haearn
mae un person yn hogi meddwl rhywun arall.
18 Yr un sy'n gofalu am y goeden ffigys sy'n bwyta ei ffrwyth,
a bydd y gwas sy'n gofalu am ei feistr yn cael ei anrhydeddu.
19 Fel adlewyrchiad o'r wyneb mewn dŵr,
mae'r bersonoliaeth yn adlewyrchu beth sy'n y galon.
20 Dydy Annwfn ac Abadon Ref byth yn cael digon,
a dydy'r llygad dynol byth yn fodlon chwaith.
21 Tawddlestr i arian, a ffwrnais i aur,
a chanmoliaeth i brofi sut un ydy person.
22 Gelli ddyrnu'r ffŵl gyda'r ŷd
mewn pestl a mortar,
ond fydd ei ffolineb ddim yn ei adael.
23 Edrych ar ôl dy ddefaid yn iawn,
a gofala am y geifr;
24 achos dydy cyfoeth ddim yn para am byth,
a dydy coron ddim yn aros bob amser.
25 Ar ôl cario'r gwair mae'r glaswellt yn tyfu eto,
ac ar ôl i gnwd y bryniau gael ei gasglu,
26 bydd yr ŵyn yn rhoi dillad i ti
a'r bychod geifr yn talu am y tir.
27 A bydd digon o laeth geifr
i ti fwydo dy deulu,
a chadw dy forynion.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity