Yn ôl

Diarhebion

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pennod 30

1 Geiriau Agwr fab Iace, o Massa.

Dyma neges y dyn:

Nid Duw ydw i. Nid Duw ydw i; dydy'r gallu ddim gen i. Ref

2 Dw i'n greadur rhy ddwl i fod yn ddynol!

Does gen i ddim synnwyr cyffredin.

3 Dw i heb ddysgu i fod yn ddoeth,

a dw i ddim yn nabod yr Un Sanctaidd.

4 Pwy sydd wedi mynd i fyny i'r nefoedd, a dod yn ôl i lawr eto?

Pwy sydd wedi gallu dal gafael yn y gwynt?

Pwy sydd wedi gallu lapio'r moroedd mewn mantell?

Pwy sydd wedi mesur y ddaear o un pen i'r llall?

Beth ydy ei enw e, ac enw ei fab? — dywed os wyt ti'n gwybod.

5 Mae pob un o eiriau Duw wedi eu profi.

Mae e'n darian i amddiffyn y rhai sy'n ei drystio.

6 Paid ychwanegu dim at ei eiriau,

rhag iddo dy geryddu di, a phrofi dy fod ti'n dweud celwydd.

7 Dw i'n gofyn am ddau beth gen ti —

rho nhw i mi cyn i mi farw:

8 Yn gyntaf, cadw fi rhag dweud celwydd a thwyllo;

ac yn ail, paid rhoi tlodi na chyfoeth i mi,

ond rho ddigon o fwyd i mi bob dydd.

9 Ie, cadw fi rhag teimlo fod popeth gen i,

ac yna dy wrthod di, a dweud,

“Pwy ydy'r ARGLWYDD?”

A cadw fi rhag dwyn am fy mod yn dlawd,

a rhoi enw drwg i Dduw.

10 Paid hel straeon am gaethwas wrth ei feistr,

rhag iddo dy felltithio di, ac i ti orfod talu'r pris.

11 Mae yna bobl sy'n melltithio eu tadau,

ac sydd ddim yn fendith i'w mamau.

12 Mae yna bobl sy'n meddwl eu bod nhw'n dda,

ond sydd heb eu glanhau o garthion eu pechod.

13 Mae yna bobl sydd mor snobyddlyd;

maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n well na pawb arall!

14 Mae yna bobl sydd a dannedd fel cleddyfau,

a'u brathiad fel cyllyll.

Maen nhw'n llarpio pobl dlawd y tir,

a'r rhai hynny sydd mewn angen.

15 Mae gan y gele ddwy ferch, “Rho fwy!” a “Rho fwy!”

Mae tri peth sydd byth yn fodlon;

pedwar sydd byth yn dweud, “Dyna ddigon!”:

16 Y bedd, croth ddiffrwyth,

tir sydd angen dŵr,

a thân —

dydy'r rhain byth yn dweud “Digon!”

17 Llygad sy'n gwneud sbort ar dad

ac yn malio dim am wrando ar mam —

bydd hi'n cael ei thynnu allan gan gigfrain,

a'i bwyta gan y fwltur.

18 Mae tri peth y tu hwnt i mi;

pedwar fydda i byth yn eu darganfod:

19 Ffordd yr eryr drwy'r awyr;

ffordd y neidr dros graig;

llwybr llong yn hwylio'r moroedd;

a llwybr cariad dyn a merch.

20 Ond ffordd gwraig anffyddlon i'w gŵr ydy:

Bwyta, sychu ei cheg,

a dweud, “Wnes i ddim byd o'i le.”

21 Mae tri peth yn gwneud i'r ddaear grynu,

pedwar peth all hi mo'i ddiodde:

22 Caethwas yn cael ei wneud yn frenin;

ffŵl yn cael gormod i'w fwyta;

23 gwraig heb ei charu yn priodi;

a morwyn yn cymryd gŵr ei meistres.

24 Mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach,

ond sy'n ddoeth dros ben:

25 Morgrug, sy'n greaduriaid bach gwan,

ond sy'n casglu eu bwyd yn yr haf.

26 Brochod, sydd ddim yn gryf chwaith,

ond sy'n gwneud eu cartrefi yn y creigiau.

27 Locustiaid, sydd heb frenin i'w rheoli,

ond sy'n mynd allan mewn rhengoedd trefnus.

28 A madfallod — gelli eu dal yn dy law,

ond gallan nhw fynd i mewn i balasau brenhinoedd!

29 Mae tri peth sy'n cerdded yn urddasol,

pedwar sy'n symud mor hardd:

30 Y llew, y cryfaf o'r anifeiliaid,

sy'n ffoi oddi wrth ddim byd.

31 Ceiliog yn torsythu, bwch gafr,

a brenin yn arwain ei bobl.

32 Os wyt ti wedi actio'r ffŵl wrth frolio,

neu wedi bod yn cynllwynio drwg,

dal dy dafod!

33 Fel mae corddi llaeth yn gwneud ymenyn,

a taro'r trwyn yn tynnu gwaed,

mae codi twrw'n creu cweryl.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity