Yn ôl

Diarhebion

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

DIARHEBION 7

Ffolineb bod yn anffyddlon

1 Fy mab, gwna beth dw i'n ddweud,

a thrysori'r hyn dw i'n ei orchymyn.

2 Gwna beth dw i'n ei orchymyn, i ti gael bywyd da;

paid tynnu dy lygad oddi ar y pethau dw i'n eu dysgu.

3 Cadw nhw fel modrwy ar dy fys;

ysgrifenna nhw ar lech dy galon.

4 Dwed wrth ddoethineb, “Ti fel chwaer i mi,”

a gwna gyngor doeth yn ffrind gorau.

5 Bydd yn dy warchod di rhag y wraig anfoesol;

rhag yr un lac ei moesau sy'n fflyrtian drwy'r adeg.

6 Rôn i'n sefyll yn y tŷ,

ac yn edrych allan drwy'r ffenest.

7 Gwelais fachgen ifanc a dim sens ganddo

gyda chriw gwyllt o bobl ifanc.

8 Roedd yn croesi'r stryd at y groesffordd

sy'n arwain at ei thŷ hi.

9 Roedd hi'n hwyr yn y dydd,

ac yn dechrau nosi a thywyllu.

10 Yn sydyn, dyma'r wraig yn dod allan i'w gyfarfod,

wedi'i gwisgo fel putain – roedd ei bwriad hi'n amlwg.

11 (Dynes swnllyd, ddigywilydd,

sydd byth yn aros adre.

12 Ar y stryd un funud, yn y sgwâr y funud nesa,

yn loetran ar bob cornel.)

13 Mae hi'n gafael yn y bachgen a'i gusanu,

ac yn dweud yn bowld:

14 “Tyrd, mae gen i fwyd adre – cig yr offrwm rois i;

dw i wedi gwneud popeth oedd ei angen.

15 A dyma fi, wedi dod allan i dy gyfarfod di –

roeddwn i'n edrych amdanat ti, a dyma ti!

16 Dw i wedi paratoi'r gwely!

Mae yna gynfasau glân arno,

a chwilt lliwgar, hyfryd o'r Aifft.

17 Mae'n arogli'n hyfryd o bersawr –

myrr, aloes, a sinamon.

18 Tyrd, gad i ni ymgolli mewn pleserau rhywiol;

mwynhau ein hunain yn caru drwy'r nos.

19 Dydy'r gŵr ddim adre –

mae e wedi mynd ar daith bell.

20 Mae e wedi mynd gyda'i arian, ar fusnes,

a fydd e ddim yn ôl tan ddiwedd y mis.”

21 Dyma hi'n llwyddo i'w berswadio;

roedd wedi'i ddenu gyda'i fflyrtian.

22 Dyma'r llanc yn mynd ar ei hôl ar unwaith,

fel ych yn mynd i'r lladd-dy,

neu garw yn neidio i drap

23 cyn i saeth ei drywanu!

Roedd fel aderyn wedi hedfan yn syth i'r rhwyd,

heb sylweddoli ei fod yn mynd i golli ei fywyd.

24 Nawr gwrandwch arna i, fechgyn;

gwrandwch yn ofalus ar beth dw i'n ddweud:

25 peidiwch hyd yn oed meddwl amdani;

peidiwch mynd yn agos ati.

26 Mae hi wedi achosi i lawer un syrthio;

mae yna fyddin o ddynion cryf wedi diodde!

27 Mae ei thŷ hi yn draffordd i'r bedd,

a'i ystafell wely yn siambr marwolaeth!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity