Yn ôl

Diarhebion

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pennod 8

Doethineb yn galw

1 Mae doethineb yn galw,

a synnwyr cyffredin yn codi ei llais.

2 Mae hi'n sefyll ar fannau uchaf y dref,

wrth ymyl y croesffyrdd,

3 ac wrth ymyl giatiau'r ddinas.

Mae hi'n gweiddi wrth y fynedfa,

4 “Dw i'n galw arnoch chi i gyd, bobl!

Dw i'n galw ar y ddynoliaeth gyfan.

5 Chi rai gwirion, dysgwch sut mae bod yn graff;

chi bobl ddwl, dysgwch chithau rywbeth.

6 Gwrandwch, achos mae gen i bethau gwych i'w dweud;

dw i am ddweud beth sy'n iawn wrthoch chi.

7 Dw i bob amser yn dweud y gwir;

mae'n gas gen i gelwydd.

8 Mae pob gair dw i'n ddweud yn iawn,

does dim twyll, dim celwydd.

9 Mae'r peth yn amlwg i unrhyw un sy'n gall,

ac mae unrhyw un craff yn gweld eu bod yn iawn.

10 Cymer beth dw i'n ei ddysgu, mae'n well nag arian;

ac mae'r arweiniad dw i'n ei roi yn well na'r aur gorau.

11 Ydy, mae doethineb yn well na gemau gwerthfawr;

does dim byd tebyg iddi.

12 “Dw i, Doethineb, yn byw gyda synnwyr cyffredin;

fi sy'n rhoi cyfeiriad i bobl.

13 Mae parchu'r ARGLWYDD yn golygu casáu'r drwg.

Dw i'n casáu balchder snobyddlyd,

pob ymddygiad drwg a thwyll.

14 Dw i'n rhoi cyngor doeth,

cyfeiriad clir a hyder.

15 Fi sy'n rhoi'r gallu i frenhinoedd deyrnasu,

ac i lywodraethwyr lunio cyfreithiau cyfiawn.

16 Dw i'n galluogi arweinwyr i reoli,

a pobl fawr a barnwyr i wneud y peth iawn.

17 Dw i'n caru'r rhai sy'n fy ngharu i,

ac mae'r rhai sy'n chwilio amdana i yn fy nghael.

18 Dw i'n rhoi cyfoeth ac anrhydedd i bobl,

cyfoeth sy'n para, a thegwch.

19 Mae fy ffrwyth i yn well nag aur, ie, aur coeth,

a'r cynnyrch sydd gen i yn well na'r arian gorau.

20 Dw i'n dangos y ffordd i fyw'n gyfiawn,

a gwneud beth sy'n iawn ac yn deg.

21 Dw i'n rhoi etifeddiaeth gyfoethog i'r rhai sy'n fy ngharu;

ac yn llenwi eu trysordai nhw.

22 “Roedd yr ARGLWYDD wedi fy ngeni i

cyn iddo wneud dim byd arall.

23 Ces fy apwyntio yn bell, bell yn ôl,

ar y dechrau cyntaf, cyn i'r ddaear fodoli.

24 Doedd y moroedd ddim yno pan gyrhaeddais i,

a doedd dim ffynhonnau yn llawn dŵr.

25 Doedd y mynyddoedd ddim wedi eu gosod yn eu lle,

a doedd y bryniau ddim yn bodoli.

26 Doedd y ddaear a chefn gwlad ddim yna,

na hyd yn oed y talpiau cyntaf o bridd.

27 Roeddwn i yno pan roddodd Duw y bydysawd yn ei le;

a phan farciodd y gorwel ar wyneb y moroedd.

28 Pan roddodd y cymylau yn yr awyr,

a pan wnaeth i'r ffynhonnau ddechrau tasgu dŵr.

29 Pan osododd ffiniau i'r môr,

fel bod y dŵr ddim yn anufudd iddo;

a pan osododd sylfeini'r ddaear.

30 Roeddwn i yno fel crefftwr,

yn rhoi pleser pur iddo bob dydd,

wrth ddawnsio a dathlu'n ddi-stop o'i flaen.

31 Roeddwn i'n dawnsio ar wyneb y ddaear,

ac roedd y ddynoliaeth yn rhoi pleser pur i mi.

32 Nawr, blant, gwrandwch arna i;

Mae'r rhai sy'n gwneud beth dw i'n ddweud mor hapus.

33 Gwrandwch ar beth dw i'n ddweud a byddwch ddoeth;

peidiwch troi cefn arno.

34 Mae'r rhai sy'n gwrando arna i yn derbyn y fath fendith,

maen nhw'n gwylio amdana i wrth y drws bob dydd,

yn disgwyl i mi ddod allan.

35 Mae'r rhai sy'n chwilio amdana i yn cael bywyd;

mae'r ARGLWYDD yn dda atyn nhw.

36 Ond mae'r rhai sy'n pasio heibio i mi yn gwneud niwed i'w hunain;

mae pawb sy'n fy nghasáu i yn caru marwolaeth.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity