Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 11

Trystio'r ARGLWYDD

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1 Dw i wedi troi at yr ARGLWYDD i'm cadw'n saff.

Felly sut allwch chi ddweud wrtho i:

“Dianc i'r mynyddoedd fel aderyn!”?

2 “Gwylia dy hun!

Mae'r rhai drwg yn plygu eu bwa,

ac yn gosod saeth ar y llinyn

i saethu o'r cysgodion

at y rhai sy'n byw'n gywir!”

3 Pan mae'r sylfeini wedi chwalu,

beth all y cyfiawn ei gyflawni?

4 Mae'r ARGLWYDD yn ei balas sanctaidd!

Ie, yr ARGLWYDD — mae ei orsedd yn y nefoedd!

Mae e'n gweld y cwbl!

Mae'n edrych yn fanwl ar y ddynoliaeth.

5 Mae'r ARGLWYDD yn gwylio y rhai cyfiawn,

ond mae'n casáu y rhai drwg a'r rhai sy'n hoffi trais.

6 Bydd yn tywallt tân a lafa ar y rhai drwg!

Corwynt dinistriol maen nhw'n ei haeddu!

7 Ydy, mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn.

Mae'n caru gweld cyfiawnder,

a bydd y rhai sy'n byw'n gywir yn cael gweld ei wyneb.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity