Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 112

Y fendith sydd i'r person duwiol

1 Haleliwia!

Mae bendith fawr i'r un sy'n parchu'r ARGLWYDD

ac wrth ei fodd yn gwneud beth mae'n ei ddweud.

2 Bydd ei ddisgynyddion yn llwyddiannus;

cenhedlaeth o bobl dduwiol yn cael eu bendithio.

3 Bydd e'n gyfoethog,

a bob amser yn byw'n gywir.

4 Mae golau yn disgleirio yn y tywyllwch i'r duwiol;

y sawl sy'n garedig, yn drugarog ac yn gwneud beth sy'n iawn.

5 Mae pethau'n mynd yn dda i'r un sy'n hael wrth fenthyg

ac yn rheoli ei fusnes yn gyfiawn.

6 Fydd dim byd yn tarfu arno;

bydd pobl yn cofio ei fod wedi byw'n gywir.

7 Does ganddo ddim ofn newyddion drwg;

mae e'n trystio'r ARGLWYDD yn llwyr.

8 Mae e'n dawel ei feddwl, ac yn ofni dim;

mae'n disgwyl gweld ei elynion yn syrthio yn y diwedd.

9 Mae e'n rhannu ac yn rhoi yn hael i'r tlodion;

bydd pobl yn cofio ei haelioni bob amser.

Bydd yn llwyddo ac yn cael ei anrhydeddu.

10 Bydd pobl ddrwg yn gwylltio pan welan nhw hyn.

Byddan nhw'n ysgyrnygu eu dannedd, ac yn colli pob hyder,

am fod eu gobeithion nhw wedi diflannu.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity