Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 116

Rhywun wedi ei achub rhag marw yn moli Duw

1 Dw i wir yn caru'r ARGLWYDD

am ei fod yn gwrando ar fy ngweddi.

2 Mae e'n troi i wrando arna i

a dw i'n mynd i ddal ati i alw arno bob amser.

3 Roedd rhaffau marwolaeth wedi eu rhwymo amdana i;

roedd ofn y bedd wedi gafael ynof fi.

Ro'n i mewn helbul! Roedd fy sefyllfa'n druenus!

4 A dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD,

“O ARGLWYDD, plîs achub fi!”

5 Mae'r ARGLWYDD mor hael a charedig;

ydy, mae ein Duw ni mor drugarog.

6 Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn pobl gyffredin;

achubodd fi pan oeddwn i'n teimlo mor isel.

7 Ond bellach dw i'n gallu ymlacio eto!

Mae'r ARGLWYDD wedi achub fy ngham!

8 Wyt, rwyt ti wedi achub fy mywyd i,

cymryd y dagrau i ffwrdd,

a'm cadw i rhag baglu.

9 Dw i'n mynd i fyw'n ffyddlon i'r ARGLWYDD

ar dir y byw.

10 Roeddwn i'n credu ynddo pan ddywedais,

“Dw i'n diodde yn ofnadwy,”

11 ond yna dweud mewn panig,

“Alla i ddim trystio unrhyw un.”

12 Sut alla i dalu nôl i'r ARGLWYDD

am fod mor dda tuag ata i?

13 Dyma offrwm o win i ddiolch iddo am fy achub,

a dw i am alw ar enw'r ARGLWYDD.

14 Dw i am gadw fy addewidion i'r ARGLWYDD

o flaen ei bobl.

15 Mae bywyd pob un o'i bobl ffyddlon

yn werthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD.

16 Plîs ARGLWYDD,

dw i wir yn un o dy weision

ac yn blentyn i dy forwyn.

Rwyt ti wedi datod y clymau oedd yn fy rhwymo i.

17 Dw i'n cyflwyno offrwm i ddiolch i ti

ac yn galw ar enw yr ARGLWYDD.

18 Dw i am gadw fy addewidion i'r ARGLWYDD

o flaen y bobl sy'n ei addoli

19 yn ei deml yn Jerwsalem.

Haleliwia!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity