Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 118

Gweddi o ddiolch am ddaioni Duw

1 Diolchwch i'r ARGLWYDD!

Mae e mor dda aton ni!

Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

2 Gadewch i Israel gyfan ddweud,

“Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”

3 Gadewch i'r offeiriaid ddweud,

“Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”

4 Gadewch i bawb arall sy'n addoli'r ARGLWYDD ddweud,

“Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”

5 Ro'n i mewn helbul, a dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD.

Dyma'r ARGLWYDD yn ateb ac yn fy helpu i ddianc.

6 Mae'r ARGLWYDD ar fy ochr,

felly fydd gen i ddim ofn.

Beth all pobl ei wneud i mi?

7 Mae'r ARGLWYDD ar fy ochr i'm helpu,

felly bydda i'n gweld fy ngelynion yn syrthio.

8 Mae'n llawer gwell troi at yr ARGLWYDD am loches

na trystio pobl feidrol!

9 Mae'n llawer gwell troi at yr ARGLWYDD am loches

na trystio'r arweinwyr.

10 Roedd y paganiaid yn ymosod arna i;

ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i'w gyrru nhw i ffwrdd.

11 Roedden nhw'n ymosod arna i o bob cyfeiriad;

ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i'w gyrru nhw i ffwrdd.

12 Roedden nhw o'm cwmpas i fel haid o wenyn;

ond dyma nhw'n diflannu mor sydyn â drain yn llosgi.

Dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i'w gyrru i ffwrdd.

13 Roedden nhw'n gwasgu arna i'n galed,

a bu bron i mi syrthio;

ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu.

14 Yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth a chân i mi!

Fe sydd wedi fy achub i.Croes

15 Mae pobl Dduw i'w clywed yn canu am y fuddugoliaeth yn eu pebyll,

“Mae'r ARGLWYDD mor gryf!

16 Mae'r ARGLWYDD yn fuddugol!

Mae ARGLWYDD mor gryf!”

17 Dw i'n fyw! Wnes i ddim marw!

Bydda i'n dweud beth wnaeth yr ARGLWYDD!

18 Roedd yr ARGLWYDD wedi fy nghosbi'n llym,

ond wnaeth e ddim gadael i mi gael fy lladd.

19 Agorwch giatiau cyfiawnder i mi

er mwyn i mi fynd i mewn i ddiolch i'r ARGLWYDD!

20 Giât yr ARGLWYDD ydy hon —

dim ond y rhai cyfiawn sy'n cael mynd trwyddi.

21 Diolch i ti am ateb fy ngweddi,

ac am fy achub i.

22 Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr

wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen.

23 Yr ARGLWYDD wnaeth hyn,

mae'r peth yn rhyfeddol yn ein golwg!

24 Mae heddiw'n ddiwrnod i'r ARGLWYDD —

gadewch i ni ddathlu a bod yn llawen!

25 O ARGLWYDD, plîs achub ni!

O ARGLWYDD, gwna i ni lwyddo!

26 Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r ARGLWYDD

wedi ei fendithio'n fawr —

Bendith arnoch chi i gyd o deml yr ARGLWYDD!

27 Yr ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn,

ac mae wedi rhoi ei olau i ni.

Gadewch i ni ddathlu!

Ewch at yr allor gyda changhennau coed palmwydd.

28 Ti ydy fy Nuw i a dw i'n diolch i ti!

Ti ydy fy Nuw i a dw i'n dy ganmol di!

29 Diolchwch i'r ARGLWYDD!

Mae e mor dda aton ni!

Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity