Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 132

Canmol y Deml

Cân yr orymdaith.

1 O ARGLWYDD, paid anghofio Dafydd.

Roedd e wedi cael amser mor galed.

2 Roedd e wedi addo i'r ARGLWYDD

a mynd ar ei lw i Un Cryf Jacob:

3 “Dw i ddim am fynd i'r tŷ,

na dringo i'm gwely;

4 dw i ddim am adael i'm llygaid orffwys,

na chau fy amrannau,

5 nes dod o hyd i le i'r ARGLWYDD,

ie, rhywle i Un Cryf Jacob fyw.”

6 Clywson fod yr Arch yn Effrata;

a dod o hyd iddi yng nghefn gwlad Jaar. Ref

7 Gadewch i ni fynd i mewn i'w dabernacl,

ac ymgrymu wrth ei stôl droed!Croes

8 O ARGLWYDD, dos i fyny i dy deml

gyda dy Arch bwerus!

9 Boed i dy offeiriaid wisgo cyfiawnder,

boed i'r rhai sy'n ffyddlon i ti weiddi'n llawen!

10 Paid troi cefn ar yr un rwyt wedi ei eneinio

o achos Dafydd dy was.

11 Roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Dafydd

— aeth ar ei lw, a dydy e ddim yn torri ei air —

“Dw i'n mynd i osod un o dy ddisgynyddion di ar dy orsedd.

12 Os bydd dy feibion yn cadw'r ymrwymiad wnaethon ni

a'r amodau dw i wedi eu gosod iddyn nhw,

bydd dy linach frenhinol yn para am byth.”

13 Mae'r ARGLWYDD wedi dewis Seion;

mae e wedi penderfynu aros yno.

14 “Dyma ble bydda i yn gorffwys am byth,” meddai,

“dw i'n mynd i deyrnasu yma. Ie, dyna dw i eisiau.

15 Dw i'n mynd i'w gwneud hi'n ddinas lwyddiannus,

a rhoi digonedd o fwyd i'r rhai anghenus ynddi.

16 Dw i'n mynd i roi achubiaeth yn wisg i'w hoffeiriaid,

a bydd ei rhai ffyddlon yn gweiddi'n llawen!

17 Dw i'n mynd i godi olynydd cryf i Dafydd;

bydd fel lamp wedi ei rhoi i oleuo'r bobl.

18 Bydda i'n gwisgo ei elynion mewn cywilydd,

ond bydd coron yn disgleirio ar ei ben e.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity