Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 140

Gweddi ar Dduw i'm cadw'n saff

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1 Achub fi, O ARGLWYDD, rhag pobl ddrwg.

Cadw fi'n saff rhag y dynion treisiol,

2 sy'n cynllwynio i wneud drwg i mi,

ac yn ymosod a chreu helynt.

3 Mae ganddyn nhw dafodau miniog;

maen nhw'n brathu fel nadroedd,

ac mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau.

Saib

4 O ARGLWYDD, paid gadael i bobl ddrwg gael gafael ynof fi!

Cadw fi'n saff rhag y dynion treisiol

sydd eisiau fy maglu i.

5 Mae dynion balch yn cuddio trap i mi;

pobl lygredig yn lledu rhwydau i mi;

ac yn gosod maglau ar fy llwybr.

Saib

6 Dywedais wrth yr ARGLWYDD: “Ti ydy fy Nuw i.”

Gwranda, O ARGLWYDD, wrth i mi erfyn am drugaredd!

7 O ARGLWYDD, Meistr, ti ydy'r un cryf sy'n achub;

ti oedd yn gysgod i mi yn y frwydr.

8 O ARGLWYDD, paid gadael i'r rhai drwg gael eu ffordd!

Paid gadael i'w cynllwyn nhw lwyddo,

rhag iddyn nhw ymffrostio.

Saib

9 Ac am y rhai sydd o'm cwmpas i —

boed i'r pethau drwg maen nhw wedi ddweud eu llethu!

10 Boed i farwor tanllyd ddisgyn arnyn nhw!

Boed iddyn nhw gael eu taflu i bydewau, byth i godi eto!

11 Paid gadael i enllibwyr aros yn y tir.

Gad i ddrygioni'r dynion treisgar eu hela nhw a'u bwrw nhw i lawr.

12 Dw i'n gwybod y bydd yr ARGLWYDD

yn gweithredu ar ran y rhai sy'n diodde.

Bydd yn sicrhau cyfiawnder i'r rhai mewn angen.

13 Bydd y rhai cyfiawn yn sicr yn moli dy enw di!

Bydd y rhai sy'n byw'n gywir yn aros yn dy gwmni di.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity