Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 145

Emyn o fawl

Cân o fawl. Salm Dafydd.

1 Dw i'n mynd i dy ganmol di, fy Nuw a'm brenin,

a bendithio dy enw di am byth bythoedd!

2 Dw i eisiau dy ganmol di bob dydd

a dy foli di am byth bythoedd!

3 Mae'r ARGLWYDD yn fawr, ac yn haeddu ei foli!

Mae ei fawredd tu hwnt i'n deall ni.

4 Bydd un genhedlaeth yn dweud wrth y nesa am dy weithredoedd,

ac yn canmol y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud.

5 Byddan nhw'n dweud mor rhyfeddol ydy dy ysblander a dy fawredd,

a bydda i'n sôn am y pethau anhygoel rwyt ti'n eu gwneud.

6 Bydd pobl yn sôn am y pethau syfrdanol rwyt ti'n eu gwneud,

a bydda i'n adrodd hanes dy weithredoedd mawrion.

7 Byddan nhw'n cyhoeddi dy ddaioni diddiwedd di,

ac yn canu'n llawen am dy gyfiawnder.

8 Mae'r ARGLWYDD mor garedig a thrugarog;

mor amyneddgar ac anhygoel o hael!Croes

9 Mae'r ARGLWYDD yn dda i bawb;

mae'n dangos tosturi at bopeth mae wedi ei wneud.

10 Mae'r cwbl rwyt ti wedi ei greu yn dy foli di, O ARGLWYDD!

Ac mae'r rhai sydd wedi profi dy gariad ffyddlon yn dy fendithio!

11 Byddan nhw'n dweud am ysblander dy deyrnasiad,

ac yn siarad am dy nerth;

12 er mwyn i'r ddynoliaeth wybod am y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud,

ac am ysblander dy deyrnasiad.

13 Mae dy deyrnasiad yn para drwy'r oesoedd,

ac mae dy awdurdod yn para ar hyd y cenedlaethau!

Mae'r ARGLWYDD yn cadw ei air;

ac yn ffyddlon ym mhopeth mae'n ei wneud. Ref

14 Mae'r ARGLWYDD yn cynnal pawb sy'n syrthio,

ac yn gwneud i bawb sydd wedi eu plygu drosodd sefyll yn syth.

15 Mae popeth byw yn edrych yn ddisgwylgar arnat ti,

a ti'n rhoi bwyd iddyn nhw pan mae ei angen.

16 Mae dy law di yn agored; rwyt ti mor hael!

Ti'n rhoi'r bwyd sydd ei angen i bob creadur byw.

17 Mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn bob amser,

ac yn ffyddlon ym mhopeth mae'n ei wneud.

18 Mae'r ARGLWYDD yn agos at y rhai sy'n galw arno;

at bawb sy'n ddidwyll pan maen nhw'n galw arno.

19 Mae'n rhoi eu dymuniad i'r rhai sy'n ei barchu;

mae'n eu clywed nhw'n galw, ac yn eu hachub.

20 Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn pawb sy'n ei garu,

ond bydd yn dinistrio'r rhai drwg i gyd.

21 Bydda i'n cyhoeddi fod yr ARGLWYDD i'w foli,

a bydd pob creadur byw yn bendithio ei enw sanctaidd,

… am byth bythoedd!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity