Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 146

Moli'r Duw sy'n achub

1 Haleliwia!

Mola'r ARGLWYDD, meddwn i wrthof fy hun!

2 Dw i'n mynd i foli'r ARGLWYDD ar hyd fy mywyd,

a chanu mawl i'm Duw tra dw i'n bodoli!

3 Paid trystio'r rhai sy'n teyrnasu —

dyn meidrol sydd ddim yn gallu achub.

4 Mae'r anadl yn mynd allan ohono,

ac mae'n mynd yn ôl i'r pridd;

a'r diwrnod hwnnw mae ei holl bolisïau yn dod i ben!

5 Mae'r un mae Duw Jacob yn ei helpu wedi ei fendithio'n fawr,

Yr un sy'n dibynnu ar yr ARGLWYDD ei Dduw,

6 y Duw a wnaeth y nefoedd, y ddaear,

y môr a phopeth sydd ynddyn nhw.

Mae e bob amser yn cadw ei air,

7 yn rhoi cyfiawnder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu,

a bwyd i'r rhai newynog.

Mae'r ARGLWYDD yn gollwng carcharorion yn rhydd.

8 Mae'r ARGLWYDD yn rhoi eu golwg i bobl ddall.

Mae'r ARGLWYDD yn gwneud i bawb sydd wedi eu plygu drosodd sefyll yn syth.

Mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.

9 Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am y mewnfudwyr

ac yn cynnal y plant amddifad a'r gweddwon.

Ond mae e'n gwneud i'r rhai drwg golli eu ffordd.

10 Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu am byth;

dy Dduw di, Seion, ar hyd y cenedlaethau.

Haleliwia!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity