Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 148

Galw ar bopeth i foli Duw

1 Haleliwia!

Molwch yr ARGLWYDD o'r nefoedd!

Molwch e o'r uchder!

2 Molwch e, ei holl angylion!

Molwch e, ei holl fyddinoedd!

3 Molwch e, haul a lleuad!

Molwch e, yr holl sêr!

4 Molwch e, y nefoedd uchod,

a'r dŵr sydd uwchben y nefoedd!

5 Boed iddyn nhw foli enw'r ARGLWYDD,

am mai fe orchymynodd iddyn nhw gael eu creu.

6 Fe roddodd nhw yn eu lle am byth bythoedd,

a gosod trefn fydd byth yn newid.

7 Molwch yr ARGLWYDD, chi sydd ar y ddaear,

a'r holl forfilod mawr yn y môr dwfn.

8 Y mellt a'r cenllysg, yr eira a'r niwl,

a'r gwynt stormus sy'n ufudd iddo.

9 Y mynyddoedd a'r bryniau i gyd,

y coed ffrwythau a'r coed cedrwydd;

10 pob anifail gwyllt a dof,

ymlusgiaid ac adar.

11 Yr holl frenhinoedd a'r gwahanol bobloedd,

yr arweinwyr a'r barnwyr i gyd;

12 bechgyn a merched

hen ac ifanc gyda'i gilydd

13 Boed iddyn nhw foli enw'r ARGLWYDD!

Mae ei enw e yn uwch na'r cwbl;

Mae ei ysblander yn gorchuddio'r nefoedd a'r ddaear!

14 Mae wedi rhoi buddugoliaeth i'w bobl,

ac enw da i bawb sydd wedi profi ei gariad ffyddlon,

sef Israel, y bobl sy'n agos ato.

Haleliwia!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity