Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 16

Y dewis gorau - Trystio Duw

Wedi ei chofnodi gan Dafydd.

1 Amddiffyn fi, O Dduw;

dw i'n troi atat ti am loches.

2 Dywedais wrth yr ARGLWYDD,

“Ti ydy fy Meistr i;

mae fy lles i yn dibynnu arnat ti.”

3 Y bobl dduwiol yn y wlad ydy fy arwyr,

dw i wrth fy modd gyda nhw.

4 Ond bydd y rhai sy'n dilyn duwiau eraill

yn cael llwyth o drafferthion!

Dw i eisiau dim i'w wneud â'u hoffrymau o waed.

Dw i ddim am eu henwi nhw hyd yn oed!

5 Ti, ARGLWYDD, ydy'r un dw i eisiau.

Mae fy nyfodol i yn dy law di.

6 Rwyt ti wedi rhoi tir da i mi;

mae gen i etifeddiaeth hyfryd.

7 Bendithiaf yr ARGLWYDD am fy arwain i;

ac am siarad gyda mi yn y nos.

8 Dw i mor ymwybodol fod yr ARGLWYDD gyda mi.

Mae'n sefyll wrth fy ochr, a fydd dim byd yn fy ysgwyd.

9 Felly, mae fy nghalon i'n llawen!

Dw i'n gorfoleddu!

Dw i'n gwybod y bydda i'n saff!

10 Wnei di ddim gadael i mi fynd i fyd y meirw,

na gadael i'r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd.

11 Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi;

bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydd

a hyfrydwch diddiwedd bob amser.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity