Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 21

Y brenin yn dathlu gofal Duw

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1 O ARGLWYDD, mae'r brenin yn llawen

am dy fod ti'n ei nerthu;

mae'n gorfoleddu'n fawr

am dy fod yn rhoi'r fuddugoliaeth iddo!

2 Ti wedi rhoi iddo beth oedd e eisiau,

wnest ti ddim gwrthod beth oedd e'n gofyn amdano.

Saib

3 Ti'n ei fendithio â phopeth da,

ac yn gosod coron o aur pur ar ei ben.

4 Gofynnodd i ti ei gadw'n fyw, a dyma ti'n rhoi bywyd iddo —

bywyd hir a llinach brenhinol fydd yn aros.

5 Mae'n enwog am dy fod wedi rhoi'r fuddugoliaeth iddo.

Ti wedi rhoi iddo ysblander ac urddas.

6 Ti wedi rhoi bendithion fydd yn para am byth,

a'r boddhad a'r llawenydd o fod yn dy gwmni.

7 Ydy, mae'r brenin yn trystio'r ARGLWYDD.

Mae'n gwybod fod y Duw Goruchaf yn ffyddlon,

felly fydd dim byd yn ei ysgwyd.

8 Byddi'n llwyddo i ddal dy holl elynion;

byddi'n rhy gryf i'r rhai sy'n dy gasáu.

9 Pan fyddi'n dod i'r golwg

byddi'n eu llosgi nhw mewn ffwrnais.

Mae'r ARGLWYDD yn ddig,

a bydd yn eu dinistrio nhw;

bydd tân yn eu llosgi nhw.

10 Byddi'n cael gwared â'u disgynyddion o'r ddaear;

byddan nhw'n diflannu o blith y ddynoliaeth.

11 Roedden nhw eisiau gwneud niwed i ti;

roedd ganddyn nhw gynllun

ond allen nhw byth lwyddo.

12 Ti'n gwneud iddyn nhw droi yn ôl

drwy gymryd dy fwa ac anelu dy saethau atyn nhw.

13 Cod, ARGLWYDD! Dangos dy nerth!

Byddwn yn canu mawl i ti am wneud pethau mor fawr.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity