Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 24

Duw ydy'r Brenin mawr!

Salm Dafydd.

1 Yr ARGLWYDD piau'r ddaear a phopeth sydd ynddi;

y byd, a phawb sy'n byw ynddo.

2 Mae wedi gosod ei sylfeini ar y moroedd,

a'i sefydlu ar ffrydiau'r dyfnder.

3 Pwy sy'n cael dringo mynydd yr ARGLWYDD?

Pwy sy'n cael sefyll yn ei deml sanctaidd? —

4 Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn a'i gymhellion yn bur;

yr un sydd ddim yn twyllo

neu'n addo rhywbeth heb fwriadu ei gyflawni.

5 Mae'r ARGLWYDD yn bendithio pobl felly;

byddan nhw'n cael eu derbyn

i berthynas iawn gyda'r Duw sy'n achub.

6 Dyma'r math o bobl sy'n cael troi ato:

y rhai sydd eisiau dy gwmni di, O Dduw Jacob.

Saib

7 Giatiau'r ddinas, edrychwch!

Agorwch, chi ddrysau tragwyddol,

er mwyn i'r Brenin gwych gael dod i mewn!

8 Pwy ydy'r Brenin gwych yma? —

yr ARGLWYDD, cryf a dewr,

yr ARGLWYDD sy'n ennill pob brwydr!

9 Giatiau'r ddinas, edrychwch!

Agorwch, chi ddrysau tragwyddol,

er mwyn i'r Brenin gwych gael dod i mewn!

10 Pwy ydy'r Brenin gwych yma? —

Yr ARGLWYDD holl-bwerus!

Fe ydy'r Brenin gwych!

Saib

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity