Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 25

Gweddi am arweiniad a help

Salm Dafydd.

1 O ARGLWYDD, dw i'n troi atat ti mewn gweddi.

2 Fy Nuw, dw i'n dy drystio di; paid â'm siomi;

paid gadael i'm gelynion gael hwyl ar fy mhen.

3 Does neb sy'n dy drystio di yn cael ei siomi.

Y rhai sy'n twyllo fydd yn methu,

nhw fydd yn cael eu siomi!

4 Dw i eisiau dy ddilyn di, ARGLWYDD;

dysga dy ffyrdd i mi.

5 Arwain fi ar y ffordd iawn a dysga fi,

achos ti ydy'r Duw sy'n fy achub i.

Dw i'n dibynnu arnat ti bob amser.

6 O ARGLWYDD, cofia dy fod yn Dduw trugarog a ffyddlon —

un felly wyt ti wedi bod erioed!

7 Paid dal yn fy erbyn y pechodau

a'r holl bethau wnes i o'i le pan oeddwn i'n ifanc.

Bydd yn garedig ata i, ARGLWYDD;

rwyt ti'n Dduw mor ffyddlon.

8 Mae'r ARGLWYDD yn dda ac yn hollol deg,

felly mae e'n dangos i bechaduriaid sut dylen nhw fyw.

9 Mae'n dangos y ffordd iawn i'r rhai sy'n plygu iddo

ac yn eu dysgu nhw sut i fyw.

10 Mae'r ARGLWYDD bob amser yn ffyddlon,

ac mae'r rhai sy'n cadw amodau'r ymrwymiad wnaeth e

yn gallu dibynnu'n llwyr arno.

11 Er mwyn dy enw da, O ARGLWYDD,

maddau'r holl ddrwg dw i wedi ei wneud

— mae yna gymaint ohono!

12 Mae'r ARGLWYDD yn dangos i'r rhai sy'n ffyddlon iddo

sut dylen nhw fyw.

13 Byddan nhw'n mwynhau bywyd,

a bydd eu plant yn etifeddu'r tir.

14 Mae'r ARGLWYDD yn rhoi arweiniad i'w ddilynwyr ffyddlon;

ac mae'n dysgu iddyn nhw oblygiadau'r ymrwymiad wnaeth e.

15 Dw i'n troi at yr ARGLWYDD am help bob amser,

am mai fe sy'n fy ngollwng i'n rhydd o rwyd y gelyn.

16 Tyrd ata i, bydd yn garedig a helpa fi,

dw i ar fy mhen fy hun, ac yn dioddef.

17 Achub fi o'r helbul dw i ynddo;

gollwng fi'n rhydd o'r argyfwng yma.

18 Edrych arna i'n dioddef mewn poen!

Maddau fy holl bechodau!

19 Edrych gymaint o elynion sydd gen i!

Maen nhw'n fy nghasáu i, ac am wneud niwed i mi!

20 Amddiffyn fi, ac achub fi!

Paid gadael i mi gael fy siomi,

achos dw i wedi troi atat ti am loches.

21 Amddiffyn fi, am fy mod i'n onest ac yn agored hefo ti;

dw i'n dibynnu arnat ti, ARGLWYDD!

22 O Dduw, gollwng Israel yn rhydd

o'i holl drafferthion!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity