Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 26

Gweddi person gonest

Salm Dafydd.

1 Achub fy ngham, O ARGLWYDD,

dw i wedi bod yn onest.

Dw i wedi dy drystio di ARGLWYDD

bob amser.

2 Archwilia fi, ARGLWYDD; gosod fi ar brawf!

Treiddia i'm meddwl a'm cydwybod.

3 Dw i'n gwybod mor ffyddlon wyt ti —

a dyna sydd yn fy ysgogi i fynd ymlaen.

4 Dw i ddim yn derbyn cyngor gan bobl sy'n twyllo,

nac yn cymysgu gyda rhai sy'n anonest.

5 Dw i'n casáu cwmni dynion drwg,

ac yn gwrthod cyngor pobl felly.

6 Dw i'n golchi fy nwylo'n lân,

ac am gerdded o gwmpas dy allor, O ARGLWYDD.

7 Dw i eisiau diolch i ti,

a dweud am y pethau rhyfeddol wnest ti.

8 O ARGLWYDD, dw i'n caru'r deml lle rwyt ti'n byw;

y fan lle mae dy ysblander i'w weld.

9 Paid ysgubo fi i ffwrdd gyda phechaduriaid,

na'm lladd gyda'r bobl dreisgar

10 sydd bob amser yn cynllwyn rhyw ddrwg,

neu'n barod i gynnig breib.

11 Dw i wedi bod yn onest.

Gollwng fi'n rhydd! Bydd yn garedig ata i!

12 Dw i'n gwybod fy mod i'n saff.

Bydda i'n addoli'r ARGLWYDD eto gyda'i bobl.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity