Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 27

Gweddi o ymroddiad i Dduw

Salm Dafydd.

1 Mae'r ARGLWYDD yn rhoi golau i mi, ac yn fy achub i;

does gen i ofn neb.

Mae'r ARGLWYDD fel caer yn fy amddiffyn i,

does neb yn fy nychryn.

2 Pan oedd dynion drwg yn ymosod arna i

i'm llarpio fel ysglyfaeth —

nhw (y gelynion oedd yn fy nghasáu),

ie, nhw wnaeth faglu a syrthio.

3 Petai byddin gyfan yn dod yn fy erbyn i,

fyddai gen i ddim ofn.

Petai rhyfel ar fin torri allan,

byddwn i'n gwbl hyderus.

4 Gofynnais i'r ARGLWYDD am un peth —

dyma beth dw i wir eisiau:

Dw i eisiau aros yn nhŷ'r ARGLWYDD

am weddill fy mywyd;

i ryfeddu ar haelioni'r ARGLWYDD,

a myfyrio yn ei deml.

5 Bydd e'n fy nghuddio i pan dw i mewn perygl;

bydda i'n saff yn ei babell;

Bydd yn fy ngosod i ar graig ddiogel,

allan o gyrraedd y gelyn.

6 Bydda i'n ennill y frwydr

yn erbyn y gelynion sydd o'm cwmpas.

Bydda i'n cyflwyno aberthau i Dduw, ac yn gweiddi'n llawen.

Bydda i'n canu a chyfansoddi cerddoriaeth i foli'r ARGLWYDD.

7 O ARGLWYDD, gwranda arna i'n galw arnat ti.

Bydd yn garedig ata i! Ateb fi!

8 Dw i'n gwybod dy fod ti'n dweud, “Ceisiwch fi!”

Felly ARGLWYDD, dw i'n dy geisio di!

9 Paid troi cefn arna i! Paid gwthio fi i ffwrdd.

Ti sy'n gallu fy helpu i!

Paid gwrthod fi! Paid â'm gadael i.

O Dduw, ti ydy'r un sy'n fy achub i!

10 Hyd yn oed petai dad a mam yn troi cefn arna i,

byddai'r ARGLWYDD yn gofalu amdana i.

11 Dangos i mi sut rwyt ti eisiau i mi fyw, O ARGLWYDD.

Arwain fi ar hyd y llwybr iawn,

achos mae'r rhai sy'n fy nghasáu yn fy ngwylio i.

12 Paid gadael i'm gelynion i gael eu ffordd.

Mae tystion celwyddog yn codi

ac yn tystio yn fy erbyn i.

13 Ond dw i'n gwybod yn iawn

y bydda i'n profi daioni'r ARGLWYDD

ar dir y byw!

14 Gobeithia yn yr ARGLWYDD!

Bydd yn ddewr ac yn hyderus!

Ie, gobeithia yn yr ARGLWYDD!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity