Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 28

Gweddi am help

Salm Dafydd.

1 O ARGLWYDD, arnat ti dw i'n galw!

Paid diystyru fi — ti ydy fy nghraig i.

Os gwnei di ddim ateb

bydda i'n siŵr o ddisgyn i'r bedd!

2 Gwranda arna i'n galw —

dw i'n erfyn am drugaredd!

Dw i'n estyn fy nwylo

at dy deml sanctaidd.

3 Paid llusgo fi i ffwrdd gyda'r rhai drwg,

y bobl hynny sy'n gwneud dim byd ond drwg.

Maen nhw'n dweud pethau sy'n swnio'n garedig

ond does dim byd ond malais yn y galon.

4 Tala yn ôl iddyn nhw am wneud y fath beth!

Rho iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu!

Cosba nhw!

5 Dŷn nhw ddim yn deall

y ffordd mae'r ARGLWYDD yn gweithio.

Bydd e'n eu bwrw nhw i lawr,

a fyddan nhw byth yn codi eto!

6 Bendith ar yr ARGLWYDD!

Ydy, mae e wedi gwrando arna i yn erfyn am drugaredd!

7 Mae'r ARGLWYDD yn rhoi nerth i mi;

mae e'n darian i'm hamddiffyn.

Dw i'n ei drystio fe'n llwyr.

Daeth i'm helpu, a dw i wrth fy modd!

Felly dw i'n mynd i ganu mawl iddo!

8 Mae'r ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf.

Mae e fel caer yn amddiffyn ac yn achub ei eneiniog, y brenin.

9 Achub dy bobl!

Bendithia dy bobl sbesial!

Gofala amdanyn nhw fel bugail

a'u cario yn dy freichiau bob amser!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity