Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 29

Llais yr ARGLWYDD yn y storm

Salm Dafydd.

1 Dewch angylion! Cyhoeddwch!

Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r ARGLWYDD!

2 Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da!

Plygwch i addoli'r ARGLWYDD

sydd mor hardd yn ei gysegr.

3 Mae llais yr ARGLWYDD i'w glywed uwchben y dŵr —

sŵn y Duw gwych yn taranu.

Mae'r ARGLWYDD yn taranu uwchben y dyfroedd mawr.

4 Mae llais yr ARGLWYDD yn rymus.

Mae llais yr ARGLWYDD yn urddasol.

5 Mae llais yr ARGLWYDD yn dryllio'r cedrwydd;

mae e'n dryllio coed cedrwydd Libanus.

6 Mae'n gwneud i Libanus brancio fel llo;

a Sirion Ref fel ych gwyllt ifanc.

7 Mae llais yr ARGLWYDD fel mellt yn fflachio.

8 Mae llais yr ARGLWYDD yn ysgwyd yr anialwch;

mae'r ARGLWYDD yn ysgwyd anialwch Cadesh.

9 Mae llais yr ARGLWYDD yn plygu'r coed mawrion,

ac yn tynnu'r dail oddi ar y fforestydd.

Ac yn ei deml mae pawb yn gweiddi “Rwyt ti'n wych!”

10 Mae'r ARGLWYDD ar ei orsedd uwchben y llifogydd. Ref

Mae'r ARGLWYDD yn Frenin ar ei orsedd am byth.

11 Mae'r ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf.

Mae'r ARGLWYDD yn rhoi heddwch i'w bobl.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity