Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 30

Gweddi o ddiolch

Salm Dafydd. Cân ar gyfer cysegru'r deml.

1 Dw i'n dy ganmol di, O ARGLWYDD,

am i ti fy nghodi ar fy nhraed;

wnest ti ddim gadael i'm gelynion ddathlu.

2 O ARGLWYDD, fy Nuw,

gwaeddais arnat ti

a dyma ti'n fy iacháu i.

3 O ARGLWYDD, codaist fi allan o fyd y meirw;

a'm cadw rhag disgyn i'r bedd.

4 Canwch i'r ARGLWYDD, chi sy'n ei ddilyn yn ffyddlon,

a'i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e!

5 Dim ond am foment mae e'n ddig.

Pan mae'n dangos ei ffafr mae'n rhoi bywyd.

Gall rhywun fod yn crïo wrth fynd i orwedd gyda'r nos;

ond erbyn y bore mae pawb yn dathlu'n llawen.

6 Roedd popeth yn mynd yn dda

a minnau'n meddwl, “All dim byd fynd o'i le.”

7 Pan oeddet ti'n dangos dy ffafr, ARGLWYDD,

roeddwn i'n gadarn fel y graig.

Ond dyma ti'n troi dy gefn arna i,

ac roedd arna i ofn am fy mywyd.

8 Dyma fi'n galw arnat ti, ARGLWYDD,

ac yn pledio arnat ti fy Meistr:

9 “Beth ydy'r pwynt os gwna i farw,

a disgyn i'r bedd?

Fydd fy llwch i'n gallu dy foli di?

Fydd e'n gallu sôn am dy ffyddlondeb?

10 Gwranda arna i, ARGLWYDD,

dangos drugaredd ata i.

O ARGLWYDD, helpa fi!”

11 Yna dyma ti'n troi fy nhristwch yn ddawns;

tynnu'r sachliain a rhoi gwisg i mi ddathlu!

12 Felly dw i'n mynd i ganu i ti gyda'm holl galon —

wna i ddim tewi!

O ARGLWYDD fy Nuw,

bydda i'n dy foli di bob amser.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity